Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu BVA BDRC i gynnal arolwg ymwelwyr fel rhan o werthusiad o frand Cymru a gweithgarwch marchnata twristiaeth. Nod y gwerthusiad hwn yw darparu gwybodaeth a thystiolaeth o'r galw am dwristiaeth, barn pobl ynglŷn â'r brand a pherfformiad gweithgarwch marchnata Croeso Cymru. Bydd Croeso Cymru yn defnyddio'r wybodaeth hon i'w helpu i ddeall anghenion ymwelwyr fel y gellir datblygu a hyrwyddo twristiaeth yng Nghymru i ddiwallu'r anghenion hyn. Fel rhan o'r gwerthusiad hwn, bydd BVA BDRC yn casglu gwybodaeth drwy arolwg ar-lein dilynol ar ddiwedd pob blwyddyn galendr, yn yr achos hwn ar gyfer 2019.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd BVA BDRC yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir drwy'r arolwg ac yn anonymeiddio'r data crai cyn iddo gael ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru ac o bosibl mewn cyhoeddiadau eraill gan BVA BDRC a Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y person cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon yn BVA BDRC yw:

Jon Young
E-bost: jon.young@bva-bdrc.com
Rhif ffôn: 020 7400 1010

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble rydym yn cael y wybodaeth hon?

Y diffiniad o ddata personol a roddir gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yw 'unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir eu hadnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddyfais adnabod'.

Caiff Arolwg Ymwelwyr Cymru ei anfon at sampl gymwys o gysylltiadau a recriwtiwyd o arolygon recriwtio ar-lein bychain a gynhelir ar wefannau Croeso Cymru a sianeli'r cyfryngau cymdeithasol, ac o arolygon ar-lein bychain a gynhelir ar wefannau trydydd parti a phartneriaid. Fel rhan o'r gweithgarwch recriwtio hwn, rhoesoch eich caniatâd i Croeso Cymru gysylltu â chi i ofyn i chi gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Bydd Croeso Cymru yn anfon y gwahoddiadau e-bost i gymryd rhan yn yr arolwg. Wrth ymateb i'r arolwg drwy'r ddolen yn yr e-bost, ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gadw fel rhan o ddata'r arolwg. Bydd BVA BDRC yn casglu eich ymatebion i'r arolwg ac yn cynnal y dadansoddiad ar ran Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o'r ymchwil hon, byddwn yn casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol:

  • rhywedd
  • oedran (braced)
  • statws priodasol
  • presenoldeb anableddau a namau
  • ethnigrwydd
  • rhywioldeb

Os byddwch yn dewis darparu eich manylion cyswllt i BVA BDRC, dim ond er mwyn ymateb i unrhyw ohebiaeth rhyngoch chi a hwythau y byddant yn cael eu defnyddio, neu at ddibenion cystadleuaeth yr arolwg. Nid oes angen i chi ddarparu eich manylion cyswllt i gymryd rhan yn yr arolwg.

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu'ch hunaniaeth â'r ymatebion. Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol wrth ofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol yn unig ac yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Caiff unrhyw ddata personol a gesglir drwy'r arolwg ei anonymeiddio ar ddechrau'r arolwg ar-lein ac ni fydd unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy yn cael ei chasglu na'i phrosesu gydag ymatebion yr arolwg.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio'ch data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir peth o'r data rydym yn ei gasglu yn 'ddata categori arbennig' (yn yr achos hwn, anabledd, ethnigrwydd a rhywioldeb) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae cyfranogiad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth gyfreithadwy am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon, er enghraifft, i fesur effaith gweithgarwch marchnata Croeso Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae gwybodaeth bersonol a ddarperir i BVA BDRC bob amser yn cael ei storio ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cyrchu'r data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd BVA BDRC yn defnyddio'r data hwn. Mae gan BVA BDRC ardystiad hanfodion seiber.

Wrth gynnal arolygon, mae BVA BDRC yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolygon o'r enw Decipher. Rydym wedi sicrhau bod Decipher yn cydymffurfio â GDPR ac yn bodloni'n disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy'r feddalwedd (e.e. caiff yr holl ddata ei brosesu yn yr AEE).

Mae gan BVA BDRC weithdrefnau i ddelio ag unrhyw achosion posibl o danseilio diogelwch. Os bydd amheuaeth fod diogelwch wedi'i danseilio, bydd BVA BDRC yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon yn cael ei anonymeiddio. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion penagored yn cael ei dileu. Bydd BVA BDRC yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am faint o amser rydym yn cadw eich data personol?

Bydd BVA BDRC yn casglu data personol fel rhan o'r contract hwn, ond bydd unrhyw ddata personol yn cael ei ddileu gan BVA BDRC chwe mis ar ôl i chi gwblhau'r arolwg. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt os ydych wedi'u darparu. Bydd BVA BDRC yn darparu tablau o'r data i Lywodraeth Cymru ond ni fyddant yn anfon unrhyw ddata ar lefel unigol ac felly ni fydd Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw ddata y gellir ei ddefnyddio i'ch adnabod.

Hawliau unigol

O dan GDPR, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarparwch fel rhan o'r arolwg hwn, sef yr hawl i:

  • gael mynediad at gopi o’ch data eich hun
  • ofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu (dan amgylchiadau penodol)
  • ofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (dan amgylchiadau penodol)
  • wneud cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data.

Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

 

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych ragor o gwestiynau am y ffordd y bydd y data a ddarparwch fel rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu'n awyddus i arfer eich hawliau gan ddefnyddio’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

David Stephens
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif ffôn: 0300 025 5236

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru