Neidio i'r prif gynnwy

Nod y gwerthusiad yw asesu dyluniad a pherfformiad y gweithrediad safleoedd cyflogaeth strategol, yn ogystal â’r dull cyflawni.

Ariennir y gweithrediad  yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Nod y gweithrediad  yw darparu’r seilwaith sylfaenol ar gyfer denu buddsoddiad a helpu i ddatblygu pedwar safle cyflogaeth strategol o ansawdd uchel.

Prif ganfyddiadau

  • Prosiect sy’n cyd-fynd yn dda â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru.
  • Tystiolaeth dda ar gyfer yr ymyrraeth, yn benodol, ceir tystiolaeth bod prinder lle ar gyfer cynnal cyflogaeth a diffyg yn y farchnad.
  • Cyfiawnhad dros y dewis o safleoedd, mae pob un yn gyraeddadwy ac maent wedi’u lleoli mewn ardaloedd lle mae galw yn y farchnad a gerllaw ceiswyr gwaith.
  • Trefniadau rheoli a monitro cadarn yn Llywodraeth Cymru ac ar y safle.
  • Mae’r gweithrediad safleoedd cyflogaeth strategol ar y trywydd iawn i fodloni pob un o’i dargedau ac mae cynnydd da wedi cael ei wneud o ran cyflawni pob un o amcanion y themâu trawsbynciol.

Mae’r argymhellion yn cynnwys camau i:

  • gynnal ymgyrch farchnata wedi’i thargedu at feddianwyr a datblygwyr arfaethedig
  • ystyried sut y gellid sicrhau bod cymunedau difreintiedig yn gallu manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cyflogaeth

Mae disgwyl i’r gwerthusiad terfynol gyflwyno ei adroddiad yng ngaeaf 2022.

Adroddiadau

Gwerthuso safleoedd cyflogaeth strategol: adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso safleoedd cyflogaeth strategol: adroddiad interim (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 770 KB

PDF
770 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Katy Marrin

Rhif ffôn: 0300 062 5103

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.