Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliwyd Sesiynau Cyfoethogi Ychwanegol mewn 14 lleoliad yn ystod y flwyddyn academaidd 2021/22. Mae'r gwerthusiad yn amlinellu sut y cafodd y cynllun treialu ei weithredu ac yn nodi'r canfyddiadau ar gyfer y buddiolwyr.

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn ariannu Gaeaf Llawn Lles i helpu teuluoedd, plant a phobl ifanc i ymadfer yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Fel rhan o hyn, darparwyd hyd at £2m ar gyfer treialu Sesiynau Cyfoethogi Ychwanegol er mwyn cyflwyno gweithgareddau a phrofiadau i gefnogi plant a phobl ifanc i ddysgu, datblygu sgiliau, ac ar gyfer lles corfforol a meddyliol ar draws lleoliadau dysgu gwirfoddol ('lleoliadau' o hyn ymlaen) yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22.

Nod y Treial o'r Sesiynau Cyfoethogi Ychwanegol oedd profi i ba raddau y byddai ychwanegu awr i'r diwrnod ysgol yn helpu dysgwyr i ddal i fyny â'r cyfleoedd cymdeithasol, academaidd a lles yr oeddent wedi'u colli oherwydd pandemig y coronafeirws.

Adroddiadau

Gwerthuso Treialu Sesiynau Cyfoethogi Ychwanegol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Roisin O’Brien

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.