Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad yn adolygu effeithiolrwydd ac effaith y Rhaglen Fynediad o ran cynyddu sgiliau cyflogadwyedd oedolion di-waith yn agos at y farchnad lafur.

Nod y Rhaglen Fynediad yn arbennig yw helpu unigolion sydd â siawns resymol o fod yn barod i weithio o fewn chwe mis.

Mae'r Rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru.  Bydd ar gael hyd nes y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno ei rhaglen gyflogadwyedd, Cymorth Swyddi Cymru, yn nhymor y gwanwyn 2020.

Gweinyddu a chyflwyno'r rhaglen

Canfu'r gwerthusiad fod y rhaglen wedi cael ei gweinyddu a'i chyflwyno'n llwyddiannus ar y cyfan. Roedd Llywodraeth Cymru a Gyrfa Cymru yn credu bod y dull amlasiantaeth yn gweithio'n dda, er enghraifft:

  • gall y gwasanaeth atgyfeirio helpu i leihau costau gweinyddol Llywodraeth Cymru
  • mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru yn ychwanegu gwerth wrth helpu cleientiaid Gyrfa Cymru i sicrhau gwaith.

Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod swyddogaeth weithredol lefel uchel Llywodraeth Cymru yn cael ei hategu gan wasanaeth atgyfeirio Gyrfa Cymru, gwybodaeth fanwl ynghylch y farchnad lafur a chyflwyno'n lleol.

Cefnogi Cyfranogwyr

Un o brif ganfyddiadau’r gwerthusiad oedd bod cynghorwyr Gyrfa Cymru wedi llunio’r Rhaglen Fynediad fel rhan o daith fwy hirdymor i sicrhau cyflogaeth. O ganlyniad, mae'r rhaglen ar ei phen ei hun yn annhebygol o arwain at waith. Roedd y cynghorwyr yn teimlo ei bod yn bwysig rheoli disgwyliadau'r cyfranogwyr o ran yr hyn y gellid ei gyflawni drwy'r rhaglen.

Gwnaethant hefyd nodi bod angen annog cyfranogwyr i ddatblygu sgiliau meddal, megis sgiliau chwilio am swyddi a sgiliau cyfweliad, er mwyn gallu dod o hyd i swydd yn effeithiol.

Y niferoedd a gymerodd ran yn y rhaglen a'i heffaith

Hyfforddiant galwedigaethol oedd yr elfen fwyaf poblogaidd o blith y cymorth a gynigiwyd gan y rhaglen. Yr elfen honno hefyd a gafodd yr effaith fwyaf ar ganlyniadau cyflogaeth, gyda chyfranogwyr yn llwyddo i fodloni gofynion sylfaenol swyddi ar ôl ennill cymwysterau.

Roedd peth tystiolaeth i awgrymu bod cymryd rhan yn y rhaglen wedi gwella hyder unigolion, hyd yn oed pan nad oeddent wedi llwyddo i gael swydd. Gall y math hwn o sgil meddal helpu i symud rhai cyfranogwyr gam yn nes at sicrhau swydd yn y dyfodol.

Roedd y niferoedd a oedd wedi dewis yr opsiynau Cymorth Recriwtio i Gyflogwr a Chymorth Hyfforddi i Gyflogwr yn is na’r disgwyl. Daeth yr adolygiad o hyd i dystiolaeth gyfyngedig bod y mathau hyn o gefnogaeth yn cynnig ychwanegedd.

Adroddiadau

Gwerthuso’r Rhaglen Mynediad, 2017 i 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthuso’r Rhaglen Mynediad, 2017 i 2019: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 520 KB

PDF
520 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Hannah Smith

Rhif ffôn: 0300 062 2038

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.