Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi llongyfarch GwerthwchiGymru, sef gwasanaeth caffael ar-lein am ddim Llywodraeth Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bob blwyddyn, mae gwerth mwy na £6 biliwn o gyfleoedd yn cael eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru sy'n rhan o Busnes Cymru, sef rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cymorth i fusnesau. Ac mae'r ffigur hwn yn cynyddu wrth i fwy o brynwyr o'r sector cyhoeddus a phreifat ddefnyddio GwerthwchiGymru i sicrhau bod eu tendrau yn cyrraedd mwy o bobl. 

 

Ymhlith y 22,000 o gontractau a luniwyd hyd yma, mae GwerthwchiGymru wedi nodi bod tua dau draean ohonynt wedi'u dyfarnu i gyflenwyr o Gymru, a bod 75 y cant o'r rheini wedi'u dyfarnu i fusnesau bach a chanolig.

 

Cyrhaeddwyd y garreg filltir o 22,000 o gontractau drwy ddyfarnu gwaith i Aber Heating Engineers o Aberystwyth a enillodd gontract gwerth £280,000 i gyflenwi oerwyr i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Rwy'n falch o gadarnhau bod GwerthwchiGymru wedi helpu i ddyfarnu 22,000 o gontractau yn y sector cyhoeddus a phreifat. Mae'r garreg filltir bwysig hon yn dangos pa mor llwyddiannus y mae GwerthwchiGymru wedi darparu cyswllt hawdd ei ddefnyddio rhwng busnesau a'r sector cyhoeddus ehangach.

"Mae'r amrywiaeth o gontractau sydd ar gael drwy'r porthol yn eang ac yn cynnwys pob math o feysydd o beirianneg, marchnata a TG, i adeiladu, cyngor ar iechyd a diogelwch ac ymgyngoriaethau proffesiynol. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd i gwmnïau o bob maint ac mae'n galonogol iawn gweld cymaint o fusnesau bach a chanolig o Gymru yn ennill busnes drwy'r gwasanaeth.

 

"Mae GwerthwchiGymru yn cynnig cyfleoedd i fusnesau o bob math dyfu a datblygu. Dim ond cofrestru sydd angen ei wneud er mwyn cael hysbysiadau perthnasol rheolaidd am y gwaith sy’n cael ei gynnig. Byddwn yn annog cwmnïau sydd heb wneud hynny i ddysgu mwy am y gwasanaeth gwerthfawr hwn". 

 

Mae GwerthwchiGymru yn rhoi cyfle i fusnesau weithio gyda phob math o sefydliadau yn sector cyhoeddus Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, GIG, prifysgolion a cholegau, ac adrannau ac asiantaethau Llywodraeth Cymru a'r DU.

 

Yn ôl y Cyfarwyddwr, Mark Sandford, yr hyn a ddenodd Aber Heating Engineers i'r porthol oedd y cyfleoedd hynod amrywiol: "Mae cyfleoedd i gael gwaith yn ymddangos yn rheolaidd ac mae GwerthwchiGymru yn borthol hawdd iawn ei ddefnyddio. Gallwch chwilio yn hawdd am gyfleoedd a chyflwyno cynigion priodol am waith naill ai drwy GwerthwchiGymru neu drwy ei ddolenni i bortholion eraill.

 

"Mae GwerthwchiGymru, bellach yn rhan bwysig o'n strategaeth fusnes newydd. Mae'r ffaith bod 22,000 o gontractau wedi'u dyfarnu ac mai ein cwmni ni gafodd yr un diweddaraf yn syfrdanol. Rydyn ni wrth ein bodd o fod yn rhan o stori lwyddiant GwerthwchiGymru".