Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Mae gwifren breifat yn gebl trydan uniongyrchol sy'n cysylltu generadur adnewyddadwy â chartref, busnes neu adeilad cymunedol cyfagos, gan ganiatáu iddynt ddefnyddio ynni glân heb ddibynnu'n llwyr ar y grid cyhoeddus. Bwriad y canllaw hwn yw darparu gwybodaeth ymarferol a hygyrch am yr ystyriaethau dylunio, ariannol, cyfreithiol a gweithredol allweddol sy'n gysylltiedig â sefydlu system o'r fath.

Mae'n darparu'r penawdau hanfodol i'ch helpu i nodi cyfleoedd hyfyw a chymryd y camau cyntaf tuag at eu rhoi ar waith. Mae'r canllaw'n egluro modelau cyffredin, profedig, megis cynhyrchu ar y safle ac oddi ar y safle, trefniadau endid sengl ac aml-endid, ac yn tynnu sylw at y buddion strategol, ariannol ac amgylcheddol, yn ogystal â risgiau a chyfyngiadau posibl.

P'un ai lleihau costau trydan, gwella gwydnwch ynni, neu gefnogi'r gwaith o gynhyrchu ynni glân lleol yw'r nod, mae'r canllaw hwn yn fan cychwyn ymarferol. 

I gael cyngor wedi'i deilwra, cymorth ymarferol, neu help i wireddu eich syniadau, cysylltwch ag Ynni Cymru.

Crynodeb

Mae gwifren breifat yn gyswllt cebl uniongyrchol rhwng cynhyrchydd trydan a defnyddiwr cyfagos, ac mae'n osgoi'r grid cyhoeddus. Mae'n gweithio orau pan fydd y ddau'n agos at ei gilydd ac yn gallu ffurfio cytundeb hirdymor. Gall y systemau hyn arbed arian i'r ddwy ochr trwy dorri costau'r grid a chostau cyflenwyr. Gall y generadur fod ar y safle neu oddi ar y safle, a gellir allforio ynni i'r grid hefyd. Mae angen buddsoddiad ymlaen llaw, gwaith sefydlu cyfreithiol a chymeradwyaeth cynllunio ar y prosiectau hyn, ac mae gwifren breifat yn fwyaf addas ar gyfer defnyddwyr mawr a chanddynt alw cyson.

Image
Diagram sy'n dangos model BTM gwifren breifat sy'n cynnwys generadur ynni adnewyddadwy, defnyddiwr a'r grid.

Dyluniad y system

  • Cysylltiad cebl uniongyrchol (o dan y ddaear neu uwchben). 
  • Gall y generadur fod ar y safle neu gerllaw. 
  • Un sefydliad neu sawl sefydliad yn gweithio gyda'i gilydd. 
  • Gall y trydan fynd i'r defnyddiwr lleol a'r grid fel ei gilydd. 
  • Rhaid cael cyflenwad wrth gefn o'r grid, mesuryddion, a gall gynnwys batris. 
  • Rhaid bodloni rheolau diogelwch a bod â thystysgrif.

Addasrwydd strategol

  • Dyma'r system orau ar gyfer defnyddwyr mawr a chanddynt anghenion trydan cyson a hirdymor. 
  • Mae'n gweithio'n dda pan fydd y generadur a'r defnyddiwr yn agos at ei gilydd. 
  • Mae cytundeb hirdymor yn ofynnol (fel arfer 15 mlynedd). 
  • Mae llwyddiant ariannol yn dibynnu ar y costau, yr arbedion, ac am ba mor hir y bydd y ddau barti'n gweithredu.

Buddion

  • Ariannol: yn gostwng taliadau am drydan o'r grid a chostau cyflenwyr; mae'r cynhyrchydd yn ennill mwy, a'r defnyddiwr yn talu llai. 
  • Integreiddio: mae'n gweithio'n dda gyda batris, gwefrwyr cerbydau trydan, a phympiau gwres. 
  • Gwydnwch: llai o ddibyniaeth ar y grid cyhoeddus; mae'n cefnogi defnydd lleol ac yn lleihau colledion ynni. 
  • Amgylcheddol: yn galluogi'r defnydd o ynni adnewyddadwy ac yn lleihau allyriadau carbon.

Costau, cyfyngiadau a risgiau

  • Costau: buddsoddiad uchel ymlaen llaw ac amserlenni datblygu hir. 
  • Cyfyngiadau: rhaid cael safleoedd cyfagos a galw cyson; gall y prosesau cyfreithiol a chynllunio fod yn gymhleth.
  • Risgiau: ansolfedd partneriaid, newidiadau i reolau, problemau cyflenwi, a difrod i'r cebl.

Astudiaeth achos: Fferm Solar Ffordd Lamby Cyngor Caerdydd

Mae fferm solar Ffordd Lamby Cyngor Caerdydd yn dangos y modd y gall gwifren breifat weithio'n dda. Mae'r fferm solar 9MW yn anfon trydan i'r grid ac i fusnes cyfagos gan ddefnyddio gwifren breifat 2 km o hyd. Ariannodd y Cyngor y wifren yn rhan o brosiect gwerth £9 miliwn, a chytunodd ar gytundeb 20 mlynedd â'r busnes i brynu'r ynni. Mae'r pris yn hyblyg ac yn cael ei ddiweddaru'n fisol. Mae gan y system ddau gysylltiad allforio 5MW a rheolyddion clyfar sy'n cyfnewid rhwng y grid a'r wifren breifat i gael y gwerth gorau. Mae'r trefniant hwn yn dangos y modd y gall gwifrenni preifat ddwyn buddion ariannol, gweithredol ac amgylcheddol.

1. Trosolwg o wifren breifat

1.1 Disgrifiad

Mae system ynni gwifren breifat ar ei mwyaf hyfyw pan fydd y generadur a defnyddiwr trydan mawr, cyson, megis safle masnachol neu ddiwydiannol, wedi'u lleoli o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd. Er y gall gwifren breifat wasanaethu nifer o ddefnyddwyr, mae gwneud hynny'n ychwanegu cymhlethdod technegol a chyfreithiol sylweddol, a all gynyddu costau'r prosiect.

Gall datblygu gwifren breifat olygu buddsoddiad cyfalaf sylweddol a llywio cytundebau cymhleth â thirfeddianwyr ac awdurdodau cynllunio (yn dibynnu ar amgylchiadau'r prosiect). Gall yr arbedion hirdymor orbwyso'r heriau cychwynnol hyn trwy osgoi costau ac ardollau penodol sy'n gysylltiedig â chael cyflenwad o'r grid. Caiff y budd hwn wedyn ei rannu rhwng y cynhyrchydd (trwy iddo gael pris gwerthu trydan uwch o gymharu â'r farchnad gyfanwerthu) a'r defnyddiwr (trwy iddo dalu pris is am drydan o gymharu â'r farchnad fanwerthu). Fel arfer, caiff y trefniadau hyn eu ffurfioli trwy Gytundeb Prynu Ynni (PPA) Gwifren Breifat, sy'n nodi telerau'r cytundeb rhwng y cynhyrchydd a'r defnyddiwr.

1.2 Modelau ac amrywiadau

  • Cynhyrchu ar y safle o gymharu ag oddi ar y safle: Mewn cynllun gwifren breifat ar y safle, mae'r ased cynhyrchu wedi'i leoli ar yr un safle â'r defnyddiwr. Yn gyffredinol, mae'r model hwn yn symlach ac yn fwy costeffeithiol i'w weithredu am fod y gwifrenni'n fyrrach ac am fod yna lai o heriau logistaidd (Gweler ein canllaw ar gyfer Y Tu Ôl i'r Mesurydd i gael mwy o wybodaeth am hyn.) 

    I'r gwrthwyneb, mae cynllun oddi ar y safle yn cynnwys generadur wedi'i leoli ar safle ar wahân, gerllaw'r defnyddiwr. Mae hyn yn gofyn am fuddsoddiad cyfalaf mwy a chynllunio mwy cymhleth, a hynny am y gallai olygu sicrhau cytundebau tir a goresgyn rhwystrau ar y llwybr y mae'n rhaid i'r wifren deithio ar ei hyd rhwng safleoedd.

  • System endid sengl o gymharu â system aml-endid: Mae model un endid yn golygu bod y defnyddiwr yn berchen ar yr ased cynhyrchu, ac felly'r un sefydliad yw'r cynhyrchydd a'r defnyddiwr neu maent yn rhan o'r un grŵp. Mae'r trefniant hwn yn symlach yn gyffredinol gan nad yw Cytundeb Prynu Ynni Gwifren Breifat yn ofynnol. Yn achos sefydliadau’r sector cyhoeddus, mae’r model hwn hefyd yn caniatáu iddynt hawlio buddion carbon dan reolau cyfrifyddu carbon Llywodraeth Cymru.

    Mewn model aml-endid, mae'r cynhyrchydd a'r defnyddiwr yn sefydliadau ar wahân. Mae'r strwythur hwn yn gofyn am PPA ffurfiol i lywodraethu'r cyflenwad trydan a'r broses o'i werthu. Gall cynlluniau mwy cymhleth gynnwys nifer o ddefnyddwyr, ac mae hyn yn cynyddu'r cymhlethdod technegol a chyfreithiol yn sylweddol, yn ogystal â chostau'r prosiect.

  • Allforio Cyfunol: Mae model allforio cyfunol yn galluogi'r cynhyrchydd i gyflenwi trydan i nifer o ddefnyddwyr neu farchnadoedd. O dan y trefniant hwn, mae peth o'r trydan a gynhyrchir yn cael ei gyflenwi i ddefnyddiwr trwy wifren breifat, tra bo'r gweddill yn cael ei ddefnyddio i ddibenion eraill, megis defnydd ar y safle neu drwy ei allforio i'r grid cyhoeddus.

    I allforio trydan i'r grid, rhaid i'r cynhyrchydd fod â chysylltiad allforio y cytunwyd arno â Gweithredwr y Rhwydwaith Dosbarthu (DNO), a threfniant contractiol â pharti i gontract i brynu'r ynni a allforir. Mae'r model hwn yn cynnig hyblygrwydd a gall wella'r enillion ariannol gan ei fod yn caniatáu i'r cynhyrchydd ddewis yr allfa fwyaf proffidiol ar gyfer ei drydan ar unrhyw adeg benodol.

1.3 Partïon allweddol

Mae datblygu system ynni gwifren breifat yn gofyn am gydweithrediad rhwng sawl sefydliad. Bydd y partïon penodol sy'n gysylltiedig yn amrywio'n ôl lleoliad y prosiect a'r trefniadau masnachol.

  • Y cynhyrchydd a'r defnyddiwr: cyfranogwyr craidd y cynllun. Gallant fod yr un endid. Mae cysylltu generadur â nifer o ddefnyddwyr yn bosibl, ond mae'n ychwanegu cymhlethdod technegol a chyfreithiol ac yn cynyddu costau'n sylweddol.
  • Awdurdod cynllunio: mae cymeradwyaeth gan yr awdurdod cynllunio lleol yn ofynnol cyn dechrau ar unrhyw waith adeiladu.
  • Tirfeddianwyr a rhanddeiliaid y llwybr: rhaid ymgysylltu â thirfeddianwyr ar hyd llwybr y cebl arfaethedig, ac efallai y bydd gofyn eu digolledu. Mewn rhai achosion bydd caniatâd hefyd yn ofynnol gan sefydliadau sy'n gyfrifol am ffyrdd, rheilffyrdd, cyfleustodau, dyfrffyrdd, parciau neu ardaloedd amgylcheddol os yw'r llwybr yn croesi eu tir neu eu seilwaith, neu'n effeithio arnynt.
  • Gweithredwr y Rhwydwaith Dosbarthu (DNO): ymghynghorir â'r gweithredwr ar gyfer cysylltiadau grid a diogelwch y rhwydwaith. Fel arfer, bydd ar y cynhyrchydd angen cysylltiad mewnforio bach ar gyfer cyfleusterau ar y safle, megis teledu cylch cyfyng a goleuadau. Yn gyffredinol, mae'r defnyddiwr yn cynnal cysylltiad mewnforio ar gyfer cyflenwad wrth gefn ac i gydbwyso'r trydan, sy'n arbennig o bwysig yn achos technolegau cynhyrchu ysbeidiol (megis paneli solar ffotofoltaidd neu dyrbinau gwynt). Argymhellir cael cysylltiad allforio ar safle'r cynhyrchydd neu'r defnyddiwr fel y gellir allforio unrhyw drydan nas defnyddir i'r grid.
  • Contractwr foltedd uchel (HV): a benodir i adeiladu, gweithredu a chynnal y wifren breifat a sicrhau cydymffurfedd â'r holl reoliadau diogelwch.

Yn gyffredinol, mae cynlluniau gwifrenni preifat ar y safle yn symlach i'w gweithredu ac yn cynnwys llai o bartïon.

1.4 Trefniadau masnachol

Mae cynlluniau gwifrenni preifat yn gofyn am drefniadau masnachol hirdymor i sicrhau bod costau cyfalaf cychwynnol y prosiect yn cael eu hadennill a bod modd cyflawni buddion i'r cynhyrchydd a'r defnyddiwr. Mae hyd oes y cytundebau hyn fel arfer wedi'i gynllunio i gyd-fynd ag oes weithredol yr ased cynhyrchu (neu i gwmpasu cyfnod sydd o leiaf yn 15 mlynedd). Mae'r ymrwymiad hirdymor hwn yn cael ei ffurfioli mewn PPA Gwifren Breifat. 

2. Astudiaeth achos

Mae fferm solar Ffordd Lamby Cyngor Caerdydd yn brosiect arloesol sy'n tynnu sylw at fuddion cysylltiad gwifren breifat i ddefnyddiwr masnachol mawr. Mae'r fferm solar 9MW, sydd wedi'i hadeiladu ar hen safle tirlenwi, yn cynnwys model allforio cyfunol sy'n cyflenwi ynni i'r grid cyhoeddus a defnyddiwr masnachol cyfagos, a hynny trwy wifren breifat 2 km bwrpasol. 

Darparodd y Cyngor y cyllid cyfalaf i ddatblygu'r wifren breifat, a oedd yn rhan strategol o gost gyffredinol y prosiect o £9 miliwn. Gwnaed y buddsoddiad hwn i sicrhau perthynas cyflenwi ynni uniongyrchol, hirdymor â defnyddiwr masnachol mawr cyfagos. Mae'r PPA 20 mlynedd o hyd canlyniadol â'r defnyddiwr hwn yn gytundeb 'cymryd a thalu', heb fod unrhyw ymrwymiad yn ofynnol o ran cyflenwi cyfaint gofynnol o ynni. Mae'r pris yn fynegrifol ac yn cael ei ddiweddaru'n fisol. Mae'r strwythur hyblyg hwn yn rhoi rheolaeth i'r Cyngor o ran lle mae'r trydan a gynhyrchir yn cael ei anfon, ac mae'n darparu llif refeniw sefydlog, gan olygu ei fod yn wahanol i'r PPA nodweddiadol y mae iddo isafswm cyfaint cyflenwi.

Mae gan fferm solar Ffordd Lamby ddau bwynt cysylltu gwahanol, pob un â chapasiti allforio 5MW. Mae un pwynt yn cysylltu â'r defnyddiwr masnachol mawr trwy'r wifren breifat, tra bo'r ail yn cysylltu â'r grid cyhoeddus. Mae gan y Cyngor system ddigidol soffistigedig sy'n pennu'r allfa orau ar gyfer y trydan yn awtomatig, gan gyfnewid y cyflenwad rhwng y ddau ddefnyddiwr/y ddwy farchnad hyn. Mae'r rheolaeth awtomataidd hon, y gellir ei gwrth-wneud â llaw hefyd, yn sicrhau y gall y Cyngor werthu'r trydan y mae'n ei gynhyrchu bob tro, a dewis y farchnad fwyaf proffidiol rhwng y ddau opsiwn sydd ar gael. Mae PPA allforio ag Octopus Energy yn darparu'r fframwaith masnachol ar gyfer cyflenwi'r grid. 

3. Dylunio ffisegol

Mae gweithredu cynllun gwifren breifat yn gofyn am seilwaith penodol a dylunio gofalus i sicrhau diogelwch, dibynadwyedd a hyfywedd ariannol.

3.1 Gofynion o ran y seilwaith

Mae'r seilwaith gofynnol yn cynnwys yr asedau cynhyrchu trydan, y gellir eu lleoli naill ai ar safle'r defnyddiwr neu oddi ar y safle. Yn hollbwysig, y wifren ei hun, boed wedi'i chladdu neu uwchben, sy'n ffurfio'r cysylltiad ffisegol uniongyrchol rhwng y generadur a'r defnyddiwr. Os nad yw'r ased cynhyrchu trydan wedi'i adeiladu eto, argymhellir comisiynu'r wifren breifat ar yr un pryd, er y gall y wifren breifat gymryd mwy o amser i'w hadeiladu, yn dibynnu ar ei chymhlethdod.

Fel arfer, mae gofyn cael cysylltiad grid yn safleoedd y cynhyrchydd a'r defnyddiwr. Bydd yn ofynnol i safle'r cynhyrchydd fod â chysylltiad mewnforio bach i'r grid i bweru cyfleusterau megis teledu cylch cyfyng a goleuadau ar y safle. Argymhellir bod safle'r defnyddiwr hefyd yn cynnal cysylltiad mewnforio o'r grid fel y gall fewnforio trydan o'r grid yn ystod toriadau yn y cyflenwad neu os defnyddir technoleg gynhyrchu ysbeidiol (megis paneli solar ffotofoltaidd neu dyrbinau gwynt). Argymhellir cysylltiad allforio hefyd fel y gellir allforio unrhyw drydan nas defnyddir i'r grid. Gellir creu cysylltiad allforio ar safle'r cynhyrchydd neu'r defnyddiwr. Bydd gofyn gosod mesuryddion trydan yn y ddau safle i fesur mewnforion o'r grid ac allforion i'r grid, ynghyd â swm y trydan a gyflenwir trwy'r wifren breifat.

3.2 Gofynion dylunio

Y prif ofynion dylunio yw'r ased cynhyrchu, a defnyddiwr a chanddo alw mawr, hirdymor am drydan. Dylid ystyried y proffiliau cynhyrchu a defnyddio wrth ddylunio'r cynllun; er enghraifft, ni fyddai'n gwneud synnwyr i fferm solar gyflenwi defnyddiwr y mae ei alw am drydan yn bennaf yn ystod y nos. 

Mae'r wifren yn elfen ddylunio hanfodol arall gan fod gofyn i'r generadur a'r defnyddiwr, yn nodweddiadol, fod o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd er mwyn i'r gosodiad fod yn hyfyw yn ariannol. Rhaid ystyried llwybr y wifren breifat yn ofalus gan y gallai llwybr syml sy'n osgoi tiroedd nifer o dirfeddianwyr, ffyrdd, rheilffyrdd neu rwystrau naturiol leihau costau a chymhlethdodau, ac, o bosibl, gynyddu hyfywedd ariannol y cynllun. Efallai y byddai'n fanteisiol i'r wifren fynd ar hyd llwybr hirach os gellir osgoi rhwystrau wrth wneud hynny. Ar ben hynny, mae'n hanfodol bod y wifren yn cydymffurfio â'r holl reoliadau diogelwch gan y bydd hyn yn ofynnol ar gyfer llofnodi'r gosodiad a'r ardystiad terfynol.

Gellir integreiddio technolegau clyfar i gynlluniau gwifrenni preifat i wella'r hyblygrwydd a'r effeithlonrwydd. Mae enghreifftiau'n cynnwys Systemau Rheoli Adnoddau Ynni Gwasgaredig (DERMS), sy'n caniatáu i benderfyniadau dynamig gael eu gwneud ynghylch i le y dylai trydan lifo, ac ynghylch systemau storio mewn batrïau, a all storio trydan dros ben a'i ryddhau pan fo'r galw'n uchel. Gellir ymgorffori system storio mewn batrïau, naill ai ar y safle cynhyrchu neu safle'r defnyddiwr, i reoli cynhyrchu ysbeidiol a chyfateb y cyflenwad i broffil galw'r defnyddiwr yn well. Mae'r nodweddion hyn yn helpu i gyfateb y cyflenwad i'r galw ac yn gwneud y defnydd gorau o'r ynni sydd ar gael.

4. Dylunio masnachol

4.1 Ystyriaethau cyfreithiol a gweinyddol

Mae sicrhau bod y cytundebau cyfreithiol cywir ar waith yn gynnar yn bwysig i sicrhau y gellir adeiladu a gweithredu'r wifren breifat yn hwylus.

Bydd gofyn cael Cytundeb Prynu Ynni Gwifren Breifat yn achos y rhan fwyaf o gynlluniau, oni bai fod y cynhyrchydd a'r defnyddiwr yn rhan o'r un sefydliad. Y PPA yw'r contract craidd sy'n nodi'r modd y mae trydan yn cael ei werthu, y modd y mae taliadau'n gweithio, a'r modd y mae cyfrifoldebau a risgiau'n cael eu rhannu dros yr hirdymor. Mae PPAs Gwifren Breifat yn aml yn cynnwys cymal 'cymryd neu dalu', sy'n sicrhau y gall y cynhyrchydd werthu isafswm o drydan i'r defnyddiwr neu gael iawndal os na all y defnyddiwr gymryd y cyfaint y cytunwyd arno.

Mewn achosion lle mae'r cynhyrchydd wedi ariannu'r gwaith o adeiladu'r wifren breifat, ni fydd y PPA fel arfer yn cynnwys gofyniad am isafswm cyflenwad. Fel arfer, mae prisiau'r trydan yn y PPA yn cael eu gosod ar sail hyblyg i adlewyrchu symudiadau ym mhrisiau'r farchnad gyfanwerthu. Er y gellir defnyddio templedi safonol fel man cychwyn, mae angen cynrychiolaeth gyfreithiol ar y ddwy ochr fel arfer i sicrhau bod y cytundeb yn deg. Rhan allweddol o'r trafodaethau yw sicrhau bod risg yn cael ei rhannu'n briodol rhwng y cynhyrchydd a'r defnyddiwr. Bydd gofyn cael PPAs ar wahân fel rheol ar gyfer unrhyw drydan a fewnforir o'r grid cyhoeddus, neu a allforir iddo.

Lle bo'r wifren breifat yn croesi tir trydydd parti, bydd hawddfreintiau, lesoedd neu ganiatadau eraill yn ofynnol. Yn dibynnu ar y llwybr, efallai y bydd gofyn cael cymeradwyaethau ychwanegol gan sefydliadau sy'n gyfrifol am ffyrdd, rheilffyrdd, cyfleustodau, dyfrffyrdd neu ardaloedd amgylcheddol.

Mae yswiriant hefyd yn hanfodol. Dylai polisïau gwmpasu risgiau megis difrod damweiniol i'r cebl, toriadau i'r cyflenwad a phroblemau yn ystod y gwaith adeiladu. Mae sicrhau'r contractau, y caniatadau a'r dulliau diogelu cywir yn gynnar yn y broses yn helpu i osgoi oedi ac yn rhoi hyder i'r ddau barti yn llwyddiant hirdymor y cynllun.

4.2 Ystyriaethau rheoleiddio

Mae datblygu a gweithredu cynllun gwifren breifat yn gofyn am gydymffurfedd â rheoliadau cynllunio a rheoliadau cyflenwi trydan. Cam allweddol yw cael cymeradwyaeth gynllunio gan yr awdurdod lleol perthnasol. Yn achos llwybrau hirach, gallai fod yn ofynnol ymgysylltu â llu o awdurdodau cynllunio. Efallai y bydd gofyn cael cydsyniadau amgylcheddol hefyd, a weinyddir fel arfer gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), i sicrhau bod y prosiect yn bodloni safonau amgylcheddol.

Yn ogystal â chymeradwyaethau cynllunio ac amgylcheddol, rhaid i'r cyflenwad trydan rhwng y cynhyrchydd a'r defnyddiwr gydymffurfio â chyfreithiau cyflenwi trydan neu ddod dan eithriad yn y Ddeddf Cyflenwi Trydan. Mae'r mwyafrif o gynlluniau gwifren breifat yn gymwys dan yr eithriad 'cyflenwr bach', sy'n berthnasol i asedau cynhyrchu â chyfanswm capasiti gosodedig o lai na 5MW. Gweler ein Canllaw ar Gyflenwad a Eithrir rhag Trwydded i gael rhagor o wybodaeth am eithriadau.

4.3 Hyfywedd y systemau a'r gallu i'w hatgynhyrchu yn y dyfodol

Fel arfer, caiff cynlluniau gwifrenni preifat eu cynllunio o amgylch safleoedd penodol, ond mae'r egwyddorion craidd yn berthnasol yn eang. Os gellir lleoli generadur yn agos at ddefnyddiwr ac os oes caniatâd wedi'i roi i osod y cebl, gellir ailadrodd y model mewn mannau eraill.

Mae cost a chymhlethdod pob prosiect yn dibynnu ar ffactorau lleol megis y pellter rhwng safleoedd a llwybr y cebl. Mae'r newidynnau hyn yn golygu na fydd unrhyw ddau gynllun yn costio'r un faint.

5. Buddion

  • Budd ariannol: Gall cynlluniau gwifrenni preifat sydd wedi'u cynllunio'n dda sicrhau gostyngiadau sylweddol mewn costau i'r cynhyrchydd a'r defnyddiwr fel ei gilydd. Trwy osgoi'r grid cyhoeddus, mae taliadau, ardollau a chostau cyflenwyr yn cael eu lleihau. Mae'r arbedion hyn yn cael eu rhannu: gall cynhyrchwyr werthu trydan am bris uwch na'r farchnad gyfanwerthu, tra bo'r defnyddwyr yn talu llai na'r cyfraddau manwerthu safonol.
  • Integreiddio a hyblygrwydd: Gall cynlluniau gwifrenni preifat weithio'n ddi-dor gyda thechnolegau eraill megis systemau storio mewn batrïau, pympiau gwres a seilweithiau gwefru cerbydau trydan. Mae'r technolegau hyn fel arfer yn darparu'r budd mwyaf pan fyddant wedi'u gosod ar safle'r defnyddiwr. Gellir gosod system storio mewn batrïau ar safle'r cynhyrchydd hefyd, i helpu i reoli cynhyrchu ysbeidiol ac i gadw'r cydbwysedd rhwng y cyflenwad a'r galw. Gall systemau rheoli uwch ac offer rheoli ynni wneud cynlluniau gwifrenni preifat yn fwy hyblyg ac effeithlon. Mae atebion megis Systemau Rheoli Adnoddau Ynni Gwasgaredig (DERMS) yn helpu i wneud y defnydd gorau o'r modd y defnyddir y trydan, a phryd.
  • Y grid a gwydnwch: Mae gwifrenni preifat yn lleihau dibyniaeth ar y grid cyhoeddus, gan ganiatáu i drydan barhau i lifo rhwng y generadur a'r defnyddiwr hyd yn oed yn ystod toriadau i'r grid. Mae cynlluniau gwifrenni preifat hefyd yn cefnogi'r grid ehangach trwy leihau'r angen i gysylltu system gynhyrchu newydd neu i ddiwallu galw llawn y defnyddiwr, gan leddfu'r pwysau ar y seilwaith a gwella gwydnwch cyffredinol y system.
  • Buddion amgylcheddol: Mae defnyddio cynlluniau cynhyrchu adnewyddadwy megis paneli solar neu dyrbinau gwynt yn helpu i leihau allyriadau carbon. Cyflawnir hyn trwy ddisodli trydan o'r grid, a allai fel arall gael ei gynhyrchu gan ddefnyddio tanwyddau ffosil.

6. Cyfyngiadau a risgiau

6.1 Cyfyngiadau, costau a chymhlethdodau

  • Buddsoddiad uchel ymlaen llaw: Mae gofyn cael buddsoddiad sylweddol ymlaen llaw ar gyfer cynlluniau gwifren breifat, buddsoddiad sy'n amrywio'n ôl dyluniad a chymhlethdod y prosiect.
  • Cytundebau hirdymor: Er mwyn adennill y costau uchel ymlaen llaw, rhaid i gynlluniau gwifrenni preifat fod â threfniadau masnachol hirdymor wedi'u sefydlu rhwng y cynhyrchydd a'r defnyddiwr, trefniadau sydd fel arfer yn 15 mlynedd neu ragor.
  • Amserlenni hir: Gall y gwaith o ddylunio, cymeradwyo ac adeiladu gwifren breifat gymryd blynyddoedd, yn enwedig ar gyfer prosiectau cymhleth sy'n cynnwys nifer o gyrff cynllunio a rheoleiddio.
  • Heriau o ran y llwybr: Mae gwifrenni preifat ar eu mwyaf hyfyw pan fydd llwybr y cebl yn osgoi rhwystrau mawr megis ffyrdd, afonydd neu diroedd sawl tirfeddiannwr. Gall llywio'r rhain greu perthnasoedd cymhleth rhwng rhanddeiliaid, a chynyddu'r costau a'r risgiau.
  • Cynhyrchu ysbeidiol: Nid yw ffynonellau adnewyddadwy megis paneli solar a thyrbinau gwynt yn cynhyrchu ynni'n barhaus. Gall system storio mewn 

6.2 Risgiau

  • Risg Parti i Gontract: Mae cytundebau hirdymor yn golygu bod yna risg na fydd un parti'n cyflawni'r rhwymedigaethau, er enghraifft oherwydd ansolfedd. Dylai contractau gynnwys cymalau terfynu ac iawndal.
  • Risg Dylunio ac Adeiladu: Gall problemau annisgwyl yn ystod y broses gynllunio neu adeiladu arwain at oedi a chostau ychwanegol. Mae gwaith da o ran rheoli prosiectau a chynllunio wrth gefn yn hanfodol.
  • Amgylchedd Rhanddeiliad Cymhleth: Mae llwybrau'n aml yn croesi tir sy'n eiddo i sawl parti neu sy'n golygu cael caniatâd i groesi ffyrdd, rheilffyrdd neu gyfleustodau. Gall sicrhau'r cymeradwyaethau hyn fod yn gymhleth, cymryd amser a chynyddu costau.
  • Risg Cynllunio a Rheoleiddio: Mae oedi o ran cael caniatâd cynllunio, neu wrthodiad, yn gallu cynyddu'r costau neu atal y prosiect, yn enwedig os yw'r llwybr yn croesi tir sawl tirfeddiannwr neu ardaloedd sensitif. Gall newidiadau rheoleiddiol, megis taliadau sefydlog uwch neu derfynau ar osgoi ardollau cyflenwyr, hefyd leihau'r buddion ariannol.
  • Cyfyngiadau ar Gyfrifyddu Carbon yn achos Cyrff Cyhoeddus: Mae'n bosibl na fydd cyrff cyhoeddus yn gallu hawlio'r arbedion carbon o'r ased cynhyrchu mewn trefniadau aml-endid gan mai dim ond perchennog yr ased a all adrodd am y buddion hyn.
  • Toriad yn y Cyflenwad: Gall toriadau ddigwydd os bydd y generadur neu'r wifren breifat yn methu. Mae cadw cysylltiad â’r grid ar gyfer cyflenwad wrth gefn, a chynnal a chadw asedau’n iawn yn helpu i leihau’r risg hon.
  • Taro Cebl: Gall gwifrenni preifat gael eu difrodi o ganlyniad i waith cloddio neu adeiladu. Dylid cofrestru'r llwybr fel ei fod yn ymddangos mewn chwiliadau tir, a dylai yswiriant gwmpasu costau atgyweirio a cholli cyflenwad.
  • Digwyddiadau Tywydd Eithafol: Mae digwyddiadau tywydd mwyfwy aml a difrifol oherwydd y newid yn yr hinsawdd (megis stormydd, llifogydd, gwyntoedd cryfion, neu donnau gwres) yn gallu difrodi asedau cynhyrchu a cheblau, gan arwain at doriadau neu atgyweiriadau costus. Dylai prosiectau ystyried gwydnwch o ran yr hinsawdd yn eu strategaethau dylunio a chynnal a chadw, sy'n cynnwys yswiriant priodol lle bo modd.

7. Y camau nesaf

Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio systemau gwifren breifat ar gyfer eich sefydliad cymunedol neu eich busnes, gallwch:

  • Ystyried cyfleoedd lleol: Edrychwch ar leoliadau cyfagos o ran eu potensial ar gyfer gwaith cynhyrchu adnewyddadwy. Mae agosrwydd yn allweddol ar gyfer cynlluniau gwifren breifat.
  • Adolygu'r defnydd o drydan: Gwnewch yn siŵr bod y galw'n ddigon mawr a chyson i gefnogi trefniant hirdymor.
  • Meddyliwch am y llwybr: Bydd llwybr cebl syml rhwng y generadur a'r defnyddiwr yn helpu i leihau costau a chymhlethdod. 
  • Siaradwch â'r bobl gywir yn gynnar: Cysylltwch â thirfeddianwyr i holi am ganiatâd, eich awdurdod lleol am ofynion cynllunio, a gweithredwr eich rhwydwaith trydan am anghenion o ran cyflenwad wrth gefn o'r grid: Pwy yw gweithredwr fy rhwydwaith trydan? Energy Networks Association (ENA)
  • Archwilio opsiynau ariannu: Chwiliwch am grantiau neu gymorth ariannol a allai helpu gyda'r costau ymlaen llaw: Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru Cyllid Grant / Canfyddwr cyllid | Busnes Cymru / Cyllido Cymru
  • Cael cyngor arbenigol: I gael canllawiau wedi'u teilwra a chymorth ymarferol am ddim, cysylltwch ag Ynni Cymru: ynnicymru@localpartnerships.gov.uk

8. Casgliad

Mae systemau ynni gwifrenni preifat yn cynnig opsiwn ymarferol a strategol ar gyfer cynhyrchu a chyflenwi trydan adnewyddadwy yn lleol, yn enwedig ar gyfer sefydliadau a chanddynt alw mawr a sefydlog am ynni a rhagolygon hirdymor. Mae gwifrenni preifat yn gofyn am brosesau cynllunio, buddsoddi a chydweithio gofalus, ond, o'u cynllunio'n dda, gallant ddarparu buddion ariannol, strategol ac amgylcheddol sylweddol.

Bwriedir i'r canllaw hwn fod yn fan cychwyn i'ch helpu i ddeall y cyfleoedd a'r heriau sydd ynghlwm wrth wifrenni preifat. Y cam nesaf yw asesu a allai gwifren breifat weithio ar gyfer eich safle neu eich sefydliad chi. I gael rhagor o ganllawiau technegol, gweler Nodyn Arfer Gorau ar Wifrau Preifat Llywodraeth Cymru.

I gael cyngor wedi'i deilwra, cymorth ymarferol, neu help i wireddu eich syniadau, cysylltwch ag Ynni Cymru.