Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt ddiolch i’r bobl wych a charedig o bob cefndir ac ym mhob cwr o Gymru sy’n gwirfoddoli i helpu cymunedau i wynebu’r coronavfeirws gyda’i gilydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan Gymru draddodiad cadarn o weld pobl yn helpu ei gilydd, ac rydyn ni wedi gweld hyn ar waith dros yr ychydig wythnosau diwethaf. O godi’r ffôn i siopa dros bobl sy’n hunanynysu, neu helpu ein gwasanaethau cyhoeddus, mae llawer o bethau y gellir eu gwneud.

Rwy’ am ddweud diolch – rydych chi’n anhygoel.

Os ydych chi am wirfoddoli, mae’n bwysig gofalu eich bod yn ddiogel eich hun. Dilynwch y cyngor isod, a byddwch yn ofalus.

  1. Er mwyn gwirfoddoli rhaid i chi fod yn iach, heb unrhyw symptomau fel peswch neu dymheredd uchel, a rhaid i hynny hefyd fod yn wir ar gyfer pawb ar eich aelwyd. Ni ddylid rhoi unrhyw un dan bwysau i wirfoddoli, ac ni ddylech wirfoddoli os ydych dros 70 oed, yn feichiog, neu os oes gennych gyflwr iechyd eisoes.
  2. Gallwch helpu pobl o’ch cartref eich hun, dros y ffôn neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Gall ‘helo’ neu sgwrs sydyn dros y ffôn fod yn werthfawr iawn, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn ddiogel ar y cyfryngau cymdeithasol.
  3. Gallwch gydweithio gyda’ch cymdogion i helpu pobl agored i niwed ar eich stryd neu yn eich ardal leol, neu sefydlu grŵp cymunedol newydd sy’n ymateb i COVID-19. Gwnewch yn siŵr bod systemau a phrosesau yn eu lle i’ch diogelu rhag camdriniaeth a niwed.
  4. Gallwch ymuno â sefydliad gwirfoddoli lleol – edrychwch am gyfleoedd ar Gwirfoddoli Cymru.
  5. Mae canllawiau gan WCVA (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) ar ‘Ymateb cymunedol i COVID-19 – galluogi ymarfer diogel ac effeithiol’

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA:

Rydyn ni wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy’n cynnig rhoi eu hamser. Gan ystyried yr amgylchiadau anodd sy’n wynebu pob un ohonom ni, dylid cymeradwyo hyn, ac mae’r gydnabyddiaeth hon gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr iawn.

Ceir rhagor o gymorth a chyngor ar Coronafeirws (COVID-19).