Neidio i'r prif gynnwy

O ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen, bydd gwirfoddolwyr a phobl sy’n methu gweithio gartref yn gallu archebu cit hunan-brawf llif unffordd a fydd yn cael ei ddanfon yn syth i’w cartref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gall pobl archebu prawf yma: Coronafeirws (COVID-19).

Bydd sicrhau bod mwy o brofion llif unffordd ar gael yn golygu bod profion asymptomatig rheolaidd ar gyfer y coronafeirws yn fwy cyfleus a hygyrch i bobl nad ydynt yn rhan o gynlluniau profi presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Nid oes gan tua 1 o bob 3 o bobl sydd â coronafeirws symptomau ond gallant ddal i heintio eraill, sy'n golygu bod profion asymptomatig yn ffordd bwysig o ddod o hyd i achosion i gadw pobl yn ddiogel wrth i gyfyngiadau gael eu lleddfu'n raddol . Dylai unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws hunanynysu a chael prawf drwy ffonio 119 neu ei archebu ar-lein.

Mae hunanbrofion llif unffordd hefyd ar gael i’w casglu o rai safleoedd profi ledled Cymru. Nid oes angen gwneud apwyntiad. Mae manylion y safleoedd casglu a’u hamseroedd agor ar gael yma: Coronafeirws (COVID-19).

Fel mater o drefn, gall pob person gasglu, neu archebu i’w cartref, ddau becyn o saith hunan-brawf llif unffordd i’w defnyddio gartref. Argymhellir y dylid gwneud y profion ddwywaith yr wythnos, gan gofnodi pob canlyniad ar borthol Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

Hoffem ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu profi ac rydyn ni’n arbennig o awyddus i helpu pobl sy’n gwirfoddoli neu sy’n methu gweithio gartref i gael eu profi’n rheolaidd.

Wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau, bydd profi pobl asymptomatig yn rheolaidd yn arf ychwanegol i helpu i atal lledaeniad y feirws a diogelu Cymru.