Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi datgelu bod dros 100 o wirfoddolwyr yn cynhyrchu sgrybs meddygol y mae dirfawr eu hangen ar arwyr y gwasanaethau gofal iechyd yn GIG Cymru, gan ddefnyddio defnydd ar ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae miloedd o setiau o sgrybs yn cael eu cynhyrchu gan unigolion caredig sy’n gweithio mewn canolfannau cynhyrchu ar draws cymunedau yn y De a’r Gorllewin.

Maent i gyd yn rhoi o’u hamser a’u hegni i helpu gyda’r ymdrech genedlaethol yn erbyn y coronafeiwrs (COVID-19) gan ddefnyddio defnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i sicrhau oddi wrth gyflenwyr yn y DU ar ran Alexandra, cwmni o’r DU sy’n cyflenwi sgrybs i’r GIG.

Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu i gydgysylltu’r broses gynhyrchu ymhlith y gwirfoddolwyr, ac mae hefyd wedi darparu edau, labeli gofal a maint, a’r deunyddiau pecynnu ar gyfer dosbarthu’r sgrybs.

Er mwyn cefnogi mwy ar yr ymdrech, bydd Llywodraeth Cymru yn trefnu i’r dillad gorffenedig gael eu danfon yn uniongyrchol i ysbytai.

Nia Clements, athrawes tecstiliau sy’n awyddus i ddefnyddio’i harbenigedd, sydd wedi bod yn arwain y cyswllt rhwng Llywodraeth Cymru a’r canolfannau gwirfoddolwyr.

Dywedodd Nia Clements, sy’n bennaeth dylunio a thechnoleg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, yn y Tyllgoed, Caerdydd:

Dwi wedi bod yn athrawes tecstiliau yng Nghymru ers 33 mlynedd ac roeddwn yn teimlo y dylwn i ddefnyddio fy sgiliau trefnu a gwnïo tra bo’r ysgol ar gau. 

Gofynnais am wirfoddolwyr ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar ôl cysylltu â Llywodraeth Cymru a chael llu o gynigion i helpu, sefydlwyd 11 canolfan i wnïo tiwnics ar gyfer y sbrybs.

Mae caredigrwydd pobl a’u parodrwydd i gydweithio a helpu’r GIG yng Nghymru wedi creu cryn argraff arna i.

Mae wedi bod yn dasg enfawr inni i gyd, ac rydyn ni wedi cael arweiniad a chefnogaeth hynod werthfawr gan gwmni dillad gwaith Alexandra a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

Mae’r ymateb i’r ymgyrch genedlaethol yn erbyn y feirws marwol hwn wedi bod yn ysbrydoliaeth.

Ers ein galwad i gwmnïau o Gymru am help i wneud Cyfarpar Diogelu Personol, rydyn ni wedi bod yn hunangynhaliol am y tro cyntaf erioed o ran cynhyrchu sgrybs yng Nghymru.

Mae’r ffaith bod cynifer o wirfoddolwyr yn chwarae’u rhan yn hyn o beth yn dweud y cyfan am bobl yma yng Nghymru, ac am ba mor ddiolchgar ydyn nhw i’n harwyr gofal iechyd sy’n rhoi gofal o’r radd flenaf ar y rheng flaen.

Dwi’n hynod falch o’r holl wirfoddolwyr hyn ac yn cael fy nghalonogi gan y ffaith y bydd eu hysbryd cymunedol yn parhau am gyfnod maith ar ôl inni drechu’r coronafeirws.