Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gwasanaethau tân ac achub yn cynnig cyngor i helpu i'ch cadw chi a'ch cartref yn ddiogel rhag tân a pheryglon eraill.

Maen nhw'n cynnig ymweliad diogelwch yn y cartref i'r rhai sydd ei angen. Mae’r ymweliad yn cynnwys cyngor ac offer diogelwch yn y cartref am ddim. Os oes angen, bydd larymau mwg, a larymau carbon monocsid yn cael eu darparu.

I gael gwybod a ydych chi’n gymwys, ffoniwch y gwasanaeth tân ac achub am ddim ar 0800 1691234. Neu llenwch y ffurflen ar-lein berthnasol ar gyfer eich gwasanaeth tân ac achub:

Mae'n cynnwys Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Dinas a Sir Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, Sir Benfro a Phowys.

Mae'n cynnwys Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Trefynwy, Merthyr, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Mae'n cynnwys Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.