Neidio i'r prif gynnwy

Y pŵer i roi trwyddedau

Mae Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 yn amddiffyn moch daear a’u brochfeydd yn llawn ac yn ei gwneud yn drosedd i ladd, anafu neu gymryd mochyn daear, i drin mochyn daear yn greulon neu i ymyrryd â brochfa mochyn daear. Fodd bynnag, o dan Adran 10(2) a (3) o’r Ddeddf mae gan Lywodraeth Cymru awdurdod i roi trwyddedau at y dibenion a ganlyn:

ymyrryd â brochfeydd moch daear ar gyfer:

  1. unrhyw waith coedwigaeth neu amaeth
  2. unrhyw waith i gynnal neu wella unrhyw gwrs dŵr neu systemau draenio presennol, neu i adeiladu’r hyn sydd ei angen i ddraenio’r tir, gan gynnwys gwaith i ddiogelu’r tir rhag dŵr môr neu ddŵr llanw; â
  3. rheoli cadnoid er mwyn diogelu da byw ac adar hela mewn llociau

lladd neu gymryd moch daear neu ymyrryd â’u brochfeydd ar gyfer:

  1. atal clefyd rhag lledaenu; ac
  2. atal niwed difrifol i dir, cnydau, dofednod neu i unrhyw fath o eiddo

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn awdurdod trwyddedu o dan Ddeddf 1992. Maent yn gyfrifol am roi trwyddedau fel a ganlyn:

  1. at ddibenion gwyddonol neu addysgol ar gyfer diogelu moch daear;
  2. at ddiben unrhyw ardd neu gasgliad sŵolegol;
  3. at ddiben modrwyo neu nodi moch daear;
  4. at ddiben unrhyw ddatblygiadau a ddiffinnir yn adran 55(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
  5. at ddiben diogelu heneb a gofrestrir o dan adran 1 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archaeolegol 1970, neu gynnal ymchwiliad archaeolegol iddi;
  6. at ddiben cynnal ymchwiliad i weld a gafodd trosedd ei chyflawni neu i gasglu tystiolaeth mewn cysylltiad ag unrhyw achos sydd ger bron y Llys; ac
  7. at ddiben rheoli cadnoid er mwyn diogelu adar hela sydd wedi’u rhyddhau neu anifeiliaid gwyllt.

Ar ôl darllen y daflen hon, os ydych chi’n meddwl mai Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r awdurdod trwyddedu priodol, dylech gysylltu ag:

Is-adran Diogelu Rhywogaethau 
Cyfoeth Naturiol Cymru 
Maes y Ffynnon 
Penrhosgarnedd 
Bangor
Gwynedd LL57 2DW

Rhif ffôn: 03000 653 000

Trefniadau ar gyfer rhoi trwyddedau

Os Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am roi’r drwydded a ddymunwch, ac eithrio trwydded i atal clefyd rhag lledaenu, llenwch y ffurflen ‘Deddf Gwarchod Moch Daear: Cais am Drwydded i ymyrryd â brochfeydd at ddiben cynnal gweithrediadau coedwigaeth’, mor llawn ag sy’n bosibl, a’i hanfon at Lywodraeth Cymru, Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR. Fel arall, mae croeso ichi anfon eich ffurflen atom drwy’r cyfeiriad e-bost bywydgwyllt@llyw.cymru.  Yna effallai y bydd Ymgynghorydd Bywyd Gwyllt yn cysylltu â chi er mwyn casglu gwybodaeth pellach ac/neu ymweld â’r safle.  Ar ôl i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl fanylion perthnasol, caiff penderfyniad ei wneud o fewn 30 niwrnod gwaith ar ôl i’ch ffurflen gais ddod i law ynghylch rhoi trwydded ai peidio ac os rhoddir trwydded, pa weithgareddau y dylai’r drwydded eu caniatáu.

Llenwi’r ffurflen gais

Mae’r nodau a ganlyn yn ganllawiau’n unig i’ch helpu i lenwi’r ffurflen gais mor llawn â phosibl.

Adran 6Gweithrediadau Coedwigaeth

  1. ar gyfer gweithrediadau coedwigaeth dylech roi disgrifiad o'r gwaith y mae angen i chi ei wneud. Gall hyn gynnwys sefyllfaoedd lle mae gweithrediadau coedwigaeth arferol fel cwympo coed yn glir a theneuo yn cael eu rhwystro; neu lle mae ffyrdd/traciau'n cael eu tanseilio ac felly'n achosi perygl i gerbydau; neu mae'n ofynnol gosod traciau newydd.
  2. Os ydych yn gwybod y dyddiad y mae angen trwydded arnoch, dylech gynnwys dyddiad dechrau a gorffen

Adran 7 - manylion y brochfa(brochfeydd) moch daear

Dylai hyn gynnwys gwybodaeth ar gyfer pob brochfa a nodwyd. Nodwch leoliad, maint a hyd y frochfa ac unrhyw arwyddion o weithgarwch moch daear. Os yw'n bosibl, dylech gynnwys map neu gynllun o raddfa addas sy'n dangos lle mae'r brochfa (brochfeydd) moch daear wedi'u lleoli.

Adran 9 - trefniadau ar gyfer gweithio o amgylch brochfeydd moch daear

Llenwch adran 9a a 9b ac os NAD yw eich dull neu'ch gwaith wedi'i restru, rhowch eich gwybodaeth o dan "arall" yn adran 9b os gwelwch yn dda. Os oes gwybodaeth ategol, fel adroddiad peiriannydd neu syrfëwr ar gael yna dylid darparu hwn gyda'ch ffurflen gais.

Amodau’r Drwydded

Bydd amodau’r drwydded yn amrywio gan ddibynnu ar natur y gwaith sy’n cael ei drwyddedu. Ond bydd yr amodau a ganlyn yn berthnasol i bob trwydded:

  1. rhaid i’r person sydd wedi’i awdurdodi gan y trwyddedai i wneud y gwaith y mae’r drwydded yn ei ganiatáu roi’r wybodaeth i’r trwyddedai sydd ei hangen arno i allu paratoi’r adroddiad y cyfeirir ato yn (b) isod:
  2. rhaid i’r trwyddedai roi manylion pob gwaith a wneir o dan y drwydded i Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth Llywodraeth Cymru, a hynny erbyn y 14eg diwrnod fan bellaf ar ôl i’r drwydded ddod i ben; â
  3. rhaid i’r trwyddedai ganiatáu i swyddog o Lywodraeth Cymru, ynghyd â phersonau eraill sydd eu hangen at y diben ym marn y swyddog, fod yn bresennol pan gaiff unrhyw waith o dan awdurdod y drwydded ei wneud, ar ôl dangos cerdyn adnabod o ofyn amdano  

Troseddau

Gallai peidio â chadw at amodau trwydded olygu y gallai’r trwyddedai fod yn agored i gael ei erlyn am drosedd.

Ymgynghori

O dan Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992, mae rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru, yr asiantaeth cadwraeth statudol, ar bolisi trwyddedu Llywodraeth Cymru a’r amgylchiadau lle gellid rhoi trwydded. Nid yw hyn yn golygu bod rhwymedigaeth ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru ynghylch pob cais am drwydded. Yn gyffredinol, ni chysylltir â Chyfoeth Naturiol Cymru ond os yw’r achos yn anarferol neu’n unigryw.

Trin eich gwybodaeth

Caiff yr holl wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’ch cais ei phrosesu a’i rheoli yn unol â’n rhwymedigaethau a’n dyletswyddau o dan:

  • Reoliad (UE) 2016/679, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data; 
  • Ddeddf Diogelu Data 1998;
  • Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000;
  • Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004;
  • a phob cyfraith arall sy’n ymwneud â mynediad at wybodaeth.

Gall eich gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, fod yn destun cais rhyddid gwybodaeth gan aelod o’r cyhoedd. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid inni ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch, wrth ymateb i geisiadau o’r fath. Cyn ymateb i geisiadau o’r fath, byddwn yn ymgynghori â chi i wybod eich barn ynglŷn â rhyddhau data amdanoch. Er hynny, Llywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Os ydych chi’n gwneud cais ar ran perchennog/meddianwr tir, dylech eu hysbysu am ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer trin data.

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Diogelu Data

Cefndir

Mae Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 yn gwarchod moch daear a’u brochfeydd yn llawn ac yn ei gwneud yn drosedd i ladd, anafu neu gymryd mochyn daear, trin mochyn daear mewn ffordd greulon neu ymyrryd â brochfa moch daear. Fodd bynnag, o dan y Ddeddf caiff trwyddedau eu rhoi i ymyrryd â brochfa moch daear ac i gymryd neu ladd mochyn daear.  Felly, mae system drwyddedu wedi’i sefydlu i werthuso, rhoi a monitro’r trwyddedau hyn.

Ar ôl i ddata personol yr ymgeisydd ddod i law, Llywodraeth Cymru fydd rheolydd y data.

Mae’r wybodaeth bersonol a gaiff ei chasglu yn cynnwys:

  • Manylion personol fel enw, cyfeiriad a rhif ffôn.
  • A wnaed cais am drwydded o’r blaen ac a roddwyd hi.
  • Ai chi yw perchennog / meddiannydd y tir sy’n destun y drwydded.

Sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth?

Fel rheolydd data, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth sy’n dod i law ar y ffurflen gais i werthuso’r cais, rhoi drwydded ac i fonitro unrhyw drwydded a roddir i ymyrryd â brochfa mochyn daear a lladd neu gymryd mochyn daear er mwyn atal difrod sylweddol i eiddo. Mae angen y dibenion hyn er mwyn inni allu cynnal y dasg gyhoeddus hon yn unol â Deddf Gwarchod Moch 1992. 

 phwy y mae Llywodraeth Cymru’n rhannu’ch gwybodaeth?

Rhaid i Lywodraeth Cymru ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru ar yr amgylchiadau lle ceir rhoir trwyddedau. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn mynd y tu allan i’r DU.

Am faint y byddwn yn cadw’ch gwybodaeth?

Cedwir y ffeiliau perthnasol am 6 blynedd o’r dyddiad y daw’r drwydded i ben, ei dirymu neu’i gwrthod.  

 

Eich hawliau o safbwynt eich gwybodaeth

O dan y ddeddfwriaeth ar ddiogelu data, mae gennych yr hawl:  

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch a sut i’w gweld
  • i fynnu ein bod yn cywiro unrhyw beth anghywir yn y data hyn
  • i wrthwynebu (o dan amgylchiadau penodol) prosesu’ch data personol neu gyfyngu ar eu defnyddio
  • i ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni ddileu’ch data
  • i ofyn (o dan amgylchiadau penodol) inni drosglwyddo’ch data i gorff arall
  • i gofrestru cwyn yn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar gyfer diogelu data

I ddysgu mwy am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac yn ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gwelwch y manylion cyswllt isod.

Yn Llywodraeth Cymru, yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth sy’n rhoi trwyddedu. Y cyfeiriad yw:

Yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth

Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UR

E-bost: bywydgwyllt@llyw.cymru

Ffôn: 0300 061 5920

Manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)
2il Lawr
Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH
E-bost: wales@ico.org.uk
Ffôn: 029 2067 8400 / 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk

Rhagor o wybodaeth

Dim ond crynodeb o’r ddeddfwriaeth a’r trefniadau trwyddedu sy’n cael eu disgrifio ar y daflen hon. Os hoffech ragor o wybodaeth am y trefniadau trwyddedu, ysgrifennwch at yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth (cyfeiriad uchod) neu e-bostiwch bywydgwyllt@llyw.cymru.