Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

1. Trosolwg

Mae grant ar gael i gyflogwyr ar gyfer cyflogau a hyfforddiant i helpu pobl i ddychwelyd i’r gweithle.

Pan fyddwch yn cyflogi gweithiwr cymwys byddwn yn rhoi hyd at:

  • £3,000 mewn rhandaliadau chwarterol yn y 12 mis cyntaf i’ch helpu i dalu ei gyflog
  • £1,000 ar gyfer unrhyw hyfforddiant sgiliau sy’n gysylltiedig â’r swydd

Bydd grantiau ychwanegol ar gael pan fyddwch yn recriwtio person anabl neu rywun sydd rhwng 18–24 oed nad yw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET):

  • £1,000 i gyflogwyr sy’n recriwtio person anabl
  • £1,000 i gyflogwyr sy’n recriwtio person rhwng 18–24 oed nad yw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • £2,000 i gyflogwyr sy’n cyflogi person anabl rhwng 18–24 oed nad yw mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant