Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

2. Cymhwystra

Rhaid i’r person rydych am ei recriwtio:

  • fod yn 18 oed neu’n hŷn
  • byw yng Nghymru
  • bod â’r hawl i fyw a gweithio yn y DU

Rhaid i’r person rydych am ei recriwtio hefyd fodloni un o’r meini prawf canlynol:

  • bod wedi colli swydd o fewn y 12 mis diwethaf
  • bod o dan hysbysiad diswyddiad neu’n mynd i golli ei swydd o fewn y 12 mis nesaf
  • bod rhwng18 a 24 oed a heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant
  • bod yn gyn-droseddwr neu yn droseddwr sy’n cwblhau ei ddedfryd yn y gymdeithas

Gall unrhyw gyflogwr yng Nghymru wneud cais, bydd rhaid ichi:

  • dalu’r isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog uwch i’r recriwt
  • cyflogi’r recriwt am o leiaf 16 awr yr wythnos
  • cyflogi’r recriwt am o leiaf 12 mis
  • peidio â bod wedi derbyn unrhyw gyllid Ewropeaidd arall