Grant i helpu i leihau allgáu digidol, sy’n cefnogi ein huchelgais o bawb fodloni'r Safon Ofynnol ar gyfer Bywyd Digidol.
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae dau fath o grant.
Grant Craidd (hyd at 3 blynedd)
- Ar gael ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar anghenion lleol a nodwyd.
- Cyfanswm y cyllid: £360,000 o refeniw a £30,000 o gyfalaf y flwyddyn.
- Cais nodweddiadol: hyd at £40,000 o refeniw a £3,500 o gyfalaf y flwyddyn.
- Uchafswm ar gyfer cais dros 3 blynedd: £120,000 o refeniw a £10,500 o gyfalaf.
Grant Arloesi (hyd at 12 mis)
- Ar gael ar gyfer ffyrdd arloesol o helpu pobl i ymgysylltu mwy â thechnoleg ddigidol yn annibynnol.
- Cyfanswm y cyllid: £40,000 o refeniw ac £20,000 o gyfalaf y flwyddyn.
- Cais nodweddiadol: hyd at £10,000 o refeniw a £5,000 o gyfalaf.
Pwy all wneud cais am y grant?
Mae Grant Cynhwysiant Digidol Cymru, Craidd ac Arloesi, yn agored i bob sector, gan gynnwys:
- grwpiau cymunedol
- mentrau cymdeithasol
- y trydydd sector
- grwpiau ffydd
- sefydliadau yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus
Os ydych chi'n gwneud cais fel partneriaeth/cydweithrediad, dylech enwi sefydliad arweiniol fel deiliad y grant a'r rheolwr data. Dylech hefyd gynnwys enw arweinydd o bob sefydliad partner.
Gwybodaeth am y grant
Mae'r grantiau'n cefnogi prosiectau sy'n:
- ymwreiddio cynhwysiant digidol yn eich sefydliad
- annog cydweithio traws-sector
- helpu pobl i oresgyn rhwystrau i allgáu digidol
- cryfhau neu’n creu partneriaethau i gefnogi anghenion lleol
Gall cyllid gynnwys costau staff lle bo angen i ryddhau capasiti i helpu i gefnogi pobl.
Meini prawf gofynnol
Rhaid i bob cais gynnwys:
- tystiolaeth o gadarnhad ysgrifenedig o ymrwymiad yr holl sefydliadau dan sylw
- yr adnoddau y byddwch yn ymrwymo iddynt a darparu amserlen arfaethedig ar gyfer y canlyniadau
Grant Craidd
Rhaid i brosiectau'r Grant Craidd ddechrau o 1 Ebrill 2026 a dod i ben ar 31 Mawrth 2029.
Grant Arloesi
Rhaid i brosiectau'r Grant Arloesi ddechrau o 1 Ebrill 2026 a dod i ben ar 31 Mawrth 2027.
Rydym yn croesawu prosiectau sy'n cefnogi cymunedau Cymraeg ac anghenion iaith eraill.
Sut mae gwneud cais
Grant Craidd
Gwnewch gais gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho’r ffurflen gais.
Grant Arloesi
Gwnewch gais gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein neu drwy lawrlwytho’r ffurflen gais.
Canllawiau
Defnyddiwch Ddogfen ganllaw’r grant wrth lenwi eich cais. Mae Atodiad A (Nwyddau a gwasanaethau digidol) ac Atodiad B (Arolwg) yn adnoddau dewisol i helpu i gyflawni prosiectau.
Os hoffech gael copi caled o'r ffurflen, anfonwch e-bost at digitalinclusionmailbox@llyw.cymru.
Amserlen a rhagor o wybodaeth
- 17 Tachwedd 2025: y cyfnod gwneud cais am grant yn cychwyn.
- 9 Chwefror 2026 (4pm): y cyfnod gwneud cais am grant yn dod i ben.
- Wythnos yn dechrau 16 Chwefror 2026: bydd y ceisiadau'n cael eu hystyried.
- Wythnos yn dechrau 12 Mawrth 2026: rhoddir gwybod i’r ymgeiswyr grant am ganlyniad y cyllid.
- Wythnos yn dechrau 16 Mawrth 2026: ymgeiswyr grant llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar LLYW.CYMRU.
Ni fydd unrhyw estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, sef 9 Chwefror 2026. Ni dderbynnir ceisiadau hwyr.
