Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am gymorth gan Grant Larwm Mesurau Interim Cymru (GLMIC) ar gyfer:
- gosodiadau larymau mesur interim a gychwynnwyd neu a gwblhawyd ar 1 Medi 2026 neu wedi hynny ac ar 30 Medi neu cyn hynny
- larymau interim i'w gosod ar, neu ar ôl 1 Hydref 2026
Cyn cwblhau eich cais, gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen Canllawiau Grant Larwm Mesurau Interim Cymru (GLMIC).
I lenwi'r ffurflen hon, bydd angen rhai o'r canlynol arnoch:
- awdurdod i weithredu ar ran yr Endid Cyfrifol
- tystiolaeth diogelwch tân h.y. Asesiad Risg Tân/ Arfarniad Risg Tân Waliau Allanol neu unrhyw dystiolaeth arall sy'n cefnogi'r argymhelliad neu'r gofyniad am larymau interim
- hysbysiadau gorfodi neu wahardd (lle bo'n berthnasol)
- gohebiaeth â datblygwyr am gyweirio (lle bo'n berthnasol)
- manyleb dechnegol/gwybodaeth dylunio ar gyfer y system larymau arfaethedig.
- tystysgrifau gosod
- dyfynbrisiau cyflenwyr
- anfonebau a phrawf talu
- tystiolaeth cyfathrebu â phreswylwyr
