Grantiau sy'n cefnogi prosiectau cyfalaf sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).
Cynnwys
Pa gyllid sydd ar gael?
Mae grantiau cyfalaf ar gael ar 2 lefel:
- grantiau bach o dan £50,000
- grantiau mwy gwerth hyd at £350,000
Ynglŷn â’r grant
Mae'r grant VAWDASV yn gynllun grant cyfalaf yn unig.
Rhaid i brosiectau cyfalaf gyd-fynd â 6 amcan strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.
Pwy all wneud cais am y grant?
- Sefydliadau yn y trydydd sector
- Awdurdodau lleol
- Cyrff cyhoeddus eraill
- Byrddau iechyd
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau a busnesau o'r sector preifat.
Y meini prawf gofynnol
Mae grantiau ar gael ar gyfer y mathau canlynol o brosiectau, ymysg pethau eraill:
- prynu adeilad
- cynigion a dulliau cydweithredol
- gwaith adnewyddu ac addasu i sicrhau bod gwasanaethau'n gynhwysol, yn hygyrch i bawb ac yn diwallu anghenion y boblogaeth
- gwelliannau i wasanaethau i weithio gyda phlant a phobl ifanc, fel dioddefwyr a'r rhai sy'n ymddwyn mewn ffordd niweidiol
- gwella mynediad a lleihau rhwystrau i ymyraethau / gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar ar gyfer cyflawnwyr trais a'r rhai sy'n niweidio
- gwasanaethau 'siop un stop' (mynd i'r afael ag achosion o gyflawni trais a chefnogi dioddefwyr)
- gwaith adnewyddu i loches bresennol a gwaith uwchraddio i ddarpariaeth symud ymlaen
- gwaith adnewyddu i swyddfeydd, ystafelloedd grŵp a ddefnyddir gan ddefnyddwyr gwasanaeth
- offer digidol a TG os ydynt yn cynorthwyo defnyddwyr gwasanaeth (a ddefnyddir gan ddefnyddwyr gwasanaeth)
- cyfarpar gwella diogelwch:
- clychau drysau â fideo
- jamwyr drysau
- cloeon ffenestri a chloeon drysau
- larymau personol
- teledu cylch cyfyng
- system reoli mynediad corfforol
- dyfeisiau diogelwch mwg
- caeadau diogelwch ar ffenestri/drysau
Rhaid i'r prosiect cyfalaf gael ei gwblhau ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025.
Sut mae ymgeisio
Gwnewch gais drwy lenwi'r ffurflen gais.
Anfonwch eich cais ar e-bost i: CTP.Cyllid@llyw.cymru.
Rhaid cyflwyno ceisiadau'n llawn i CTP.Cyllid@llyw.cymru erbyn 1 Chwefror 2024. Ni allwn dderbyn ceisiadau hwyr.
Asesu’r cynigion
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn asesu ceisiadau:
- i wirio bod yr holl wybodaeth wedi ei darparu
- i sgorio'r prosiectau yn erbyn y meini prawf i bennu a ydynt yn cyd-fynd â nodau'r grant cyfalaf VAWDASV
Yna bydd ceisiadau'n cael eu hanfon at gynrychiolwyr awdurdodau lleol i flaenoriaethu prosiectau yn nhrefn yr angen.
Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau anghyflawn na rhai hwyr.