Neidio i'r prif gynnwys

Grantiau sy'n cefnogi prosiectau cyfalaf sy'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV).

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pa gyllid sydd ar gael?

Mae grantiau ar gael hyd at:

  • £450,000 ar gyfer eiddo newydd i ddarparu llochesi, mannau cwnsela, neu hybiau
  • £350,000 ar gyfer pob pryniant arall

Ynglŷn â’r grant

Mae'r grant VAWDASV yn gynllun grant cyfalaf yn unig.

Rhaid i brosiectau cyfalaf gyd-fynd â 6 amcan strategaeth VAWDASV Llywodraeth Cymru 2022 i 2026.

Pwy all wneud cais am y grant?

  • Sefydliadau yn y trydydd sector
  • Awdurdodau lleol
  • Cyrff cyhoeddus eraill
  • Byrddau iechyd
  • Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan sefydliadau a busnesau o'r sector preifat.

Y meini prawf gofynnol

Mae grantiau cyfalaf ar gael ar gyfer:

  • prynu eiddo
  • caffael asedau cynaliadwy sydd o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth am o leiaf 10 mlynedd
  • prosiectau adnewyddu ac addasu i wella cynhwysiant a hygyrchedd
  • uwchraddio i fannau lloches, darpariaeth symud ymlaen a mannau swyddfa defnyddwyr gwasanaeth
  • prosiectau sy'n anelu at wella gwasanaethau, gan gynnwys gweithio gyda phlant a phobl ifanc (dioddefwyr a'r rhai sy'n arddangos ymddygiad niweidiol)
  • gwasanaethau 'siop un stop' ar gyfer mynd i'r afael ag achosion o gyflawni trais a chefnogi dioddefwyr
  • mentrau diogelwch dioddefwyr
  • gwelliannau i fannau ac offer ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth
  • offer digidol a TG, lle mae'n cefnogi defnyddwyr gwasanaeth yn uniongyrchol (trafodwch geisiadau digidol gyda'ch Cynghorydd Rhanbarthol)

Sut i wneud cais

Asesu’r ceisiadau

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn asesu ceisiadau yn:

  • Sifft 1: gwirio bod yr holl wybodaeth wedi'i chwblhau (gan gynnwys dyfynbrisiau/prisiadau).
  • Sifft 2: sgorio prosiectau ar sail meini prawf, gan gynnwys alinio ag Amcanion Strategol VAWDASV Llywodraeth Cymru, i bennu a ydynt yn bodloni nodau'r cynllun grant cyfalaf.