Neidio i'r prif gynnwys

Esboniad o sut i ddatgan diddordeb mewn grant i foderneiddio amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yn darparu gwasanaethau a chymorth hanfodol i gymunedau ledled Cymru. Maen nhw hefyd yn ffynonellau gwybodaeth ac yn rhoi addysg a mwynhad i’r bobl sy’n ymweld â nhw. Mae moderneiddio cyfleusterau er mwyn gwella mynediad, galluogi gwasanaethau i gydweithio ac adnewyddu'r hyn a gynigir i ddefnyddwyr yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella'r gwasanaethau a ddarperir. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod hyn ac mae'n cefnogi datblygiadau drwy ei rhaglen cyllid cyfalaf.

Ynglŷn â'r grant

Bydd dwy ran i'r broses ymgeisio am y cynllun grant.

Cam 1

Yn dilyn galwad agored i'r sector, gwahoddiad i'r rheini sydd â diddordeb i ymgeisio. Gall y rheini sydd â diddordeb ddatblygu a chyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Anogir ymgeiswyr i ddarparu cais drafft i gynghorwyr cyn ei gyflwyno.

Cam 2

Gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus y cam cyntaf ddatblygu a chyflwyno cais llawn. Rhaid i'r cais yn yr ail gam gyd-fynd â’r cynnig a gafodd ei gymeradwyo yn y Datganiad o Ddiddordeb.

Bydd y ddau gam yn gystadleuol, ac nid yw Datganiad llwyddiannus yn gwarantu arian yn yr ail gam.

Cymhwysedd

Pwy sy'n cael gwneud cais

Amgueddfeydd: amgueddfeydd annibynnol a rhai sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, cyn belled â'u bod wedi'u hachredu yn llawn neu dros dro o dan gynllun Achredu Amgueddfeydd y DU neu'n gweithio at gael eu hachredu.

Archifau: gwasanaeth archif wedi'i achredu, wedi'i achredu dros dro neu wedi ymrwymo'n ffurfiol i gael ei achredu o fewn amserlen y cytunir arni. Mae ceisiadau gan bartneriaethau sy'n darparu gwasanaethau ar lefel rhanbarth neu Gymru gyfan hefyd yn gymwys.

Llyfrgelloedd: gwasanaethau llyfrgell cyhoeddus awdurdodau lleol neu ymddiriedolaethau / cwmnïau nid-er-elw sy'n darparu gwasanaeth llyfrgell ar draws yr awdurdod ar ran yr awdurdod lleol, a llyfrgelloedd cymunedol o dan fframwaith rheoleiddio (e.e. elusen gofrestredig neu gwmni buddiannau cymunedol). Mae llyfrgelloedd cymunedol yn cynnwys:

  • Llyfrgelloedd sy'n cael eu rheoli gan y Gymuned: gyda'r gymuned yn eu harwain ac yn eu darparu, heb staff cyflog fel arfer ond yn derbyn rhyw fath o gymorth gan y cyngor ac yn dal yn rhan o'r rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus.
  • Llyfrgelloedd sy'n cael cymorth y Gymuned: y cyngor sy'n eu harwain ac yn eu hariannu, fel arfer gyda staff cyflog proffesiynol, ond gyda chymorth sylweddol gan wirfoddolwyr.
  • Llyfrgelloedd cymunedol annibynnol: mae adeilad ac adnoddau'r llyfrgelloedd hyn wedi'u trosglwyddo i'r gymuned a gwirfoddolwyr sy'n eu rhedeg yn llwyr heb fawr o gymorth (os o gwbl) gan y gwasanaeth llyfrgell lleol. Dydyn nhw ddim yn rhan o'r gwasanaeth statudol.

Gall sefydliadau neu wasanaethau wneud cais am grantiau rhwng £200,000 a £500,000 am hyd at 2 flynedd ariannol.

Rhaid i'r gweithgarwch ddechrau yn ystod blwyddyn gyntaf cylch y cynllun hwnnw a rhaid cyflwyno o leiaf 1 hawliad am isafswm o 10% o gyfanswm costau'r prosiect yn ystod blwyddyn un. Rydym yn debygol o gyhoeddi'r llythyrau dyfarnu ar gyfer ceisiadau llwyddiannus ym mis Mai neu fis Mehefin 2027. Gan fod cylch y cynllun hwn yn dechrau'n hwyrach na'r arfer, rydym yn argymell eich bod yn ystyried cais 2 flynedd, hyd yn oed ar gyfer prosiectau byrrach.

Mae'r meini prawf cymhwysedd wedi cael eu diweddaru'n ddiweddar. Argymhellir yn gryf eich bod yn manteisio ar y cyfle i drafod eich cais drwy e-bostio diwylliant@llyw.cymru, cyn ei gyflwyno. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall a darparu'r hyn sydd ei angen i lunio cais cadarn.

Sut i wneud cais

Gwnewch gais drwy lenwi’r ffurflen gais mynegiant o ddiddordeb.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau cyn llenwi'r ffurflen a chyflwyno eich mynegiant o ddiddordeb.

Rhaid anfon ceisiadau Cam 1 drwy e-bost at diwylliant@llyw.cymru erbyn 12 Hydref 2026.

Bydd cyfres o weminarau gweithdy ar gael i sefydliadau sy’n symud ymlaen i Gam 2, er mwyn rhoi cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr.

Amserlen

  • Y cyfnod ar gyfer cyflwyno Ffurflen Datgan Diddordeb (EoI) yn agor yn swyddogol: 1 Medi 2026
  • Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno EoI: 12 Hydref 2026
  • Cyhoeddi penderfyniadau Cam 1: 1 Rhagfyr 2026
  • Gweminarau drwy gydol mis Rhagfyr:
    • 8 Rhagfyr 2026
    • 15 Rhagfyr 2026
    • 17 Rhagfyr 2026
  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cam 2: 22 Chwefror 2027
  • Cyhoeddi Penderfyniadau Cam 2: Mai neu Fehefin 2027