Neidio i'r prif gynnwy

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Awdurdod Cyllid Cymru a chael cytundeb cyn defnyddio ardal nad yw at ddibenion gwaredu arfaethedig.

Gallwch wneud cais am fwy nag un o'r ardaloedd hyn.

Cyn i chi ddechrau arni

Bydd angen y wybodaeth ganlynol er mwyn llenwi'r ffurflen hon: 

  • eich rhif cofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 
  • manylion eich busnes cofrestredig a’r safleoedd tirlenwi rydych chi'n eu gweithredu, gan gynnwys cyfeiriad pob safle tirlenwi awdurdodedig neu ddisgrifiad ohono.
  • dogfennau ategol sy’n esbonio manylion y deunydd(iau) y bwriedir ei adael yn y fan nad yw at ddibenion gwaredu, a’i ffiniau o fewn y safle tirlenwi.

Rhagor o arweiniad i helpu i lenwi’r ffurflen hon

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.