Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth wedi cyhoeddi bod y rhwydwaith ffyrdd a elwir yn Driongl EVO yn mynd i gael ei wneud yn fwy diogel, diolch i £500,000 o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid, a gaiff ei neilltuo ar gyfer cymal cyntaf y cynllun diogelu, yn talu am gamerâu i fesur cyflymder cyfartalog cerbydau ar hyd yr A543 yn Sir Ddinbych a Chonwy, y rhan o 'Driongl EVO' lle cafwyd y nifer mwyaf o ddamweiniau. Bydd hefyd yn caniatáu i'r gwaith o gynllunio a pharatoi ar gyfer yr ail gymal, y cymal olaf, fynd yn ei flaen.

Mae pobl wedi bod yn gyrru'n beryglus ac yn rhy gyflym ar hyd y ffordd, a nod y cynllun hwn, dan arweiniad Cyngor Sir Dinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yw mynd i'r afael â'r broblem.

Camerâu cyflymder cyfartalog yw'r ffordd orau o gadw cerbydau i gyflymder diogel yn gyson dros leiniau hir o'r ffordd, a byddant yn ei gwneud yn ffordd lai deniadol i'r rheini sydd am yrru'n rhy gyflym.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £40,000 i'r awdurdodau lleol gynnal astudiaeth o'r ffordd, a sefydlwyd grŵp penodol i drafod materion diogelwch y triongl.  

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth:

"Fe roddais gyfarwyddyd i gynghorau Sir Ddinbych a Chonwy gydweithio'n agos i ddatblygu ffordd well o leihau gyrru peryglus, a gwneud hynny'n flaenoriaeth. Bydd hyn yn mynd i'r afael â phroblemau yn ardal Triongl EVO, a dwi'n falch ei fod yn cael cefnogaeth Grant Diogelwch Ffyrdd gwerth £500,000 gan Lywodraeth Cymru.

"Diogelwch fydd yr ystyriaeth gyntaf bob amser wrth fuddsoddi yn ein rhwydwaith ffyrdd, a bydd gosod camerâu cyflymder cyfartalog yn yr ardal hon yn gymhelliad i arafu ac yn creu amodau gwell i drigolion lleol, busnesau a'r rheini sydd eisoes yn gyrru'n ofalus.

"Rydyn ni am i bawb fod yn ddiogel ac yn gyfrifol wrth ddefnyddio ein ffyrdd, a bydd cyhoeddiad heddiw yn help i fynd i'r afael â'r problemau sy'n wynebu pobl wrth deithio ar hyd y ffordd hon."