Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths yn annog ffermwyr ledled Cymru i fanteisio ar cymorth Llywodraeth Cymru i wneud eu busnes yn fwy effeithlon, i wrthsefyll anawsterau a bod yn fwy ecogyfeillgar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Grant Busnes i Ffermwyr yn helpu ffermwyr i wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol eu ffermydd trwy ddarparu cyfraniad o 40% tuag at fuddsoddiadau cyfalaf ar gyfer 70 o eitemau o offer a pheiriannau.  Mae’r eitemau hyn, sydd wedi eu nodi ymlaen llaw gyda mewnbwn gan y diwydiant, yn cynnig manteision clir y gellir eu mesur ar gyfer mentrau fferm.  Mae rhestr lawn o eitemau ar gael ar dudalen Grant Busnes i Ffermwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r ail ffensestr ymgeisio ar gyfer y Grant wedi agor yn ddiweddar a bydd yn parhau i fod ar agor tan 29 Medi.  Mae’n dilyn llwyddiant y ffenestr gyntaf, a ddenodd dros 500 o ymgeiswyr yn gofyn am gyfanswm o £3.4 miliwn o gymorth grant. 

I fod yn gymwys am un grant o rhwng £3,000 a £12,000, mae’n rhaid i ffermwyr fynd i sioe deithiol Cyswllt Ffermio ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’, a gynehlir ledled Cymru.  Mae’r digwyddiadau gyda’r nos hyn yn targedu pob busnes ffermio sy’n gymwys ar gyfer gwasanaethau Cyswllt Ffermio.

Mae’r sioeau teithiol yn anelu at baratoi busnesau ffermio at y dyfodol a darparu gwybodaeth ar y ffyrdd niferus y gall Cyswllt Ffermio gynnig cyngor a chymorth.  

Mae hyn yn cynnwys Gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, all gynnig cyngor busnes neu dechnegol hyd at bedair gwaith dros gyfnod o bedair mlynedd.  

Bu i’r gyfres gyntaf o sioeau teithiol rhanbarthol ddenu dros 4,000 o ffermwyr a bydd y gyfres nesaf o ddigwyddiadau yn cychwyn ddechrau Medi.  Bydd y cyflwyniadau ar gyfer pob digwyddiad yn canolbwyntio ar ddatblygu busnesau cynaliadwy gyda’r nod o wella perfformiad economaidd ac amgylcheddol.   

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Bydd y cyllid sydd ar gael drwy’r Grant yn galluogi ffermwyr i fuddsoddi yn eu busnesau fel y gallant weithredu’n fwy effeithiol, yn fwy cystadleuol ac mewn dull sy’n  ecogyfeillgar.  Bydd hyn yn ei dro yn golygu y gallant wrthsefyll anawsterau yn well wrth inni baratoi am ddyfodol ansicr y tu allan i’r UE.   

“Os ydynt yn bwriadu gwneud cais am y Grant Busnes i Ffermwyr neu beidio, hoffwn annog ffermwyr ledled Cymru i fynd i sioe deithiol ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ a dod i wybod mwy am y cyngor a’r cymorth amrywiol sydd ar gael iddynt.”   

Am ragor o wybodaeth ar ddyddiadau a lleoliadau y sioeau teithiol ac i gadw lle, ewch i Cyswllt ffermio neu ffoniwch Ganolfan Wasanaethu Cyswllt Ffermio ar 08456 000 813.