Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wneud cais am gyllid i gefnogi digwyddiadau i greu amgylchedd LHDTC+ diogel a chroesawgar.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Rydym yn dymuno ehangu Cronfa Balchder Llawr Gwlad i ardaloedd mwy gwledig a threfi llai. Rydym am helpu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn driw i’w hunain ledled Cymru.

Pwy all wneud cais i’r Gronfa hon?

Bydd y gronfa yn helpu digwyddiadau Balchder llai ledled Cymru i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach a’u cefnogi.

Dylid cael un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel rheolwr y prosiect ac sy’n gyfrifol am reoli’r dyfarniad cyllid o ddydd i ddydd.

Nodau’r Gronfa

Dyma rai o dargedau’r Gronfa:

  • cynnal digwyddiad Balchder LHDTC+ mewn lleoliad yng Nghymru, a all gynnwys cyfleoedd i berfformwyr ac artistiaid LHDTC+
  • cynnal gwaith maes gyda chymunedau ehangach, gan ganolbwyntio ar archwilio gofodau mwy diogel a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol newydd
  • cyflawni ymrwymiad gan y Llywodraeth i barhau i ddarparu cymorth i sefydliadau Balchder

Sut i wneud cais

Mae Cronfa Balchder Llawr Gwlad Llywodraeth Cymru yn cael ei gweinyddu gan Pride Cymru ac mae’n agor ar 15 Mehefin 2026. Gallwch wneud cais drwy eu gwefan. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Pride Cymru

Digwyddiadau Balchder a gefnogwyd yn 2025 drwy’r Gronfa Balchder Llawr Gwlad

  • Balchder y Fenni
  • Balchder y Barri 
  • Balchder Blaenau Gwent (1af)
  • Balchder Aberhonddu
  • Balchder Pen-y-bont ar Ogwr
  • Balchder Cil-y-coed
  • Balchder Cas-gwent (1af)
  • Balchder Bae Colwyn
  • Grŵp Balchder Glitter Pride gan Glitter Cymru
  • Balchder Llandyfri
  • Llanelli QC (1af)
  • Balchder Machynlleth
  • Balchder Trefynwy
  • Balchder Castell-nedd Port Talbot
  • Balchder yn y Porthladd (Casnewydd)
  • Balchder Gogledd Cymru 
  • Balchder Sir Benfro
  • Balchder y Rhath
  • Balchder Abertawe
  • Balchder Tor-faen
  • Balchder Wrecsam