Neidio i'r prif gynnwy

Gwnewch gais nawr am gyllid i helpu gyda costau gwisg ysgol ac offer chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r gronfa newydd, PDG Mynediad, yn targedu dysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim neu blant sy'n derbyn gofal ac sy'n mynd i ddosbarth derbyn neu Flwyddyn 7 ym mis Medi ac yn  4 neu'n 11  oed mewn ysgolion arbennig, Unedau Anghenion Addysgol Arbennig neu Unedau Cyfeirio Disgyblion.

Bydd y gronfa hefyd yn cynnwys cyllid am offer ar gyfer teithiau ysgol y tu allan i oriau, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored, ac offer ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm, megis dylunio a thechnoleg.

Mae Kirsty Williams yr Ysgrifennydd Addysg a Debbie Wilcox Arweinydd CLlLC wedi annog rhieni/gofalwyr plant cymwys i drafod â'u cyngor heddiw ynghylch gwneud cais am y cyllid newydd.

Meddai Kirsty Williams:

"Rydym am i'n disgyblion i gyd gael yr un cyfleoedd - boed y tu mewn neu y tu allan i'r ysgol - ac mae PDG Mynediad yn gwneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.

"Rydym yn gwybod y gall gostau gwisg ysgol, offer chwaraeon ac offer ar gyfer gweithgareddau eraill fod yn ddrud, felly mae'n bwysig iawn bod rhieni a gofalwyr yn ymwybodol o'r gronfa newydd hon ac yn gwybod ble i wneud cais.

"Os ydych yn credu eich bod yn gymwys ar gyfer PDG Mynediad yna trafodwch â'ch cyngor heddiw a gallech dderbyn £125 yn fuan i helpu gyda'r costau hyn."

Meddai y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC ar Addysg:

"Hoffwn annog unrhyw riant neu ofalwr sy'n credu eu bod yn gymwys ar gyfer y gronfa hon gysylltu â'u hawdurdod lleol.

"Mae awdurdodau lleol am gefnogi pob disgybl i elwa o'r un cyfleoedd, a dyna pam y bydd CLlLC yn edrych ymlaen at barhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod arian mor bwysig  yn cael ei gynnal a'i ddiogelu."