Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi gwobr newydd wrth iddo annog pobl i gyflwyno eu henwebiadau cyn y dyddiad cau ar gyfer Gwobrau Dewi Sant.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

A hwythau bellach yn eu 9fed flwyddyn, mae gwobrau Dewi Sant yn dathlu gwir arwyr Cymru. Eleni, yn ogystal â chydnabod y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud gan bobl ledled Cymru, gan gynnwys ein gweithwyr allweddol a gwirfoddolwyr - bydd gwobr newydd sef Pencampwr yr Amgylchedd.

Bydd y wobr newydd yn dathlu person neu grŵp sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at wella eu hamgylchedd, naill ai'n lleol, ledled Cymru neu'n rhyngwladol.

Caiff enillwyr y gwobrau eu barnu gan banel arbenigol a fydd yn ystyried enwebiadau'r rhai sydd wedi mynd y tu hwnt i'r  hyn sy'n ddyletswydd arnynt, neu sydd wedi cyflawni gweithredoedd anhunanol i gefnogi'r gymuned, ym mhob categori.

Y categorïau yw:

  • Gweithiwr Hanfodol (Gweithiwr Allweddol)
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Dewrder
  • Ysbryd y Gymuned
  • Diwylliant
  • Chwaraeon
  • Busnes
  • Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Ac yntau'n cyhoeddi categori'r wobr newydd, dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae Gwobrau Dewi Sant yn gyfle perffaith i enwebu pobl, o bob cwr o'r wlad, sy'n haeddu clod yn eich barn chi - boed yn ffrind, yn gydweithiwr, yn gymydog neu'n aelod o'r teulu.

“Rydym yn dal i ddelio â'r pandemig ac yn ceisio creu Cymru decach, gryfach a mwy gwyrdd a dyna pam mae'n bwysig cydnabod y bobl hynny sy'n mynd gam ymhellach i helpu Cymru i symud ymlaen.”