Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru’n anrhydeddu cyraeddiadau athrawon ym mhob cwr o’r wlad.

Mae enwebiadau ar gyfer 2021 wedi cau.

Cyhoeddir enillwyr y gwobrau mewn seremoni ar 10 Gorffennaf 2022.

Categoriau

Mae 10 Gwobr Addysgu Proffesiynol, a’r cyhoedd sy’n gwneud enwebiadau ar gyfer pob un. Defnyddiwch y diffiniadau isod i’ch helpu i benderfynu pa gategori sydd fwyaf addas ar gyfer eich enwebiad.

  • Pennaeth y Flwyddyn

Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n gallu dangos ei fod yn abl i ysbrydoli eraill. Pennaeth eithriadol sy’n arddangos y gallu i ennyn diddordeb yr ysgol yn y gymuned a diddordeb y gymuned yn yr ysgol er mwyn gwneud gwahaniaeth i bob disgybl. Hefyd, darparu tystiolaeth o gefnogi cydweithwyr mewn ysgolion eraill.

  • Athro Newydd Eithriadol

Mae'r wobr hon ar gyfer athrawon sydd yn eu hail neu drydedd flwyddyn o addysgu. Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n dangos brwdfrydedd a dulliau ardderchog yn y dosbarth i gefnogi dysgu'r disgyblion a sicrhau canlyniadau eithriadol. Gan ddangos rhinweddau arweinyddiaeth cynnar, mae wedi ymrwymo i’w ddatblygiad proffesiynol ei hun er lles disgyblion. Mae’n dangos technegau cydweithredol a dymuniad i arloesi i hyrwyddo dysgu effeithiol.      

  • Athro'r Flwyddyn mewn Ysgol Gynradd

Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n arddangos rhinweddau athro eithriadol. Yn dangos tystiolaeth o ofal a chariad at y plant, a brwdfrydedd dros ei bwnc. Tystiolaeth o fod yn esiampl ardderchog i’r genhedlaeth iau, ymdrechu’n ddiorffwys i godi safonau a chael effaith gadarnhaol ar ddysgu’r disgyblion.

  • Gwobr y Disgybl (neu’r Disgyblion) ar gyfer Athro Gorau

Mae'r wobr hon wedi'i chynllunio er mwyn i ddisgybl (neu grŵp o ddisgyblion) presennol, neu gyn-ddisgybl(ion), enwebu athro neu aelod arall o staff sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i'w fywyd/bywydau yn yr ysgol. 

  • Rheolwr Busnes Ysgol/Bwrsar

Yn cael ei dyfarnu i’r rheini sy’n dangos y gallu i reoli a hyrwyddo agenda’r ysgol i helpu i reoli’r ysgol. Dangos rhinweddau arweinyddiaeth a meddwl yn arloesol i sicrhau canlyniadau ar gyfer eu hysgol.

  • Cefnogi Athrawon a Dysgwyr

Yn cael ei dyfarnu i’r unigolion sydd wedi darparu cymorth rhagorol ac wedi cael effaith eithriadol ar yr addysgu a'r dysgu sydd yn yr ysgol.

  • Defnyddio’r Gymraeg mewn modd sy’n ysbrydoli

Mae’r wobr hon ar gyfer athrawon neu staff eraill sydd wedi ysbrydoli disgyblion a chydweithwyr yn eu hysgol i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg. Gall enwebeion weithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a Saesneg. Gallant ysbrydoli drwy’r broses ddysgu yn y dosbarth, drwy gydweithio â chydweithwyr a chyrff allanol neu drwy ddulliau arloesol eraill. 

  • Athro'r y Flwyddyn mewn Ysgol Uwchradd

Yn cael ei dyfarnu i unigolyn sy’n arddangos rhinweddau athro eithriadol. Yn dangos tystiolaeth o ofal a chariad at y plant, a brwdfrydedd dros ei bwnc. Tystiolaeth o fod yn esiampl ardderchog i’r genhedlaeth iau, ymdrechu’n ddiorffwys i godi safonau a chael effaith gadarnhaol ar ddysgu’r disgyblion.

  • Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion a’r Gymuned

Yn cael ei dyfarnu i’r unigolion sydd wedi darparu gwaith ieuenctid rhagorol mewn ysgol ac wedi cael effaith eithriadol ar fywydau pobl ifanc yn yr ysgol honno.

  • Gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Dyfernir y wobr hon i unigolyn, tîm neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ardderchog o bwysigrwydd addysg gynhwysol fel rhan o gymdeithas sy’n wynebu ac yn mynd i’r afael â hiliaeth, ac a all ddangos tystiolaeth o gyflawni canlyniadau clir.

Sut i enwebu

Y ffordd rwyddaf o wneud enwebiad yw drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein. Gallwch arbed eich gwaith a chyflwyno’r ffurflen pan fyddwch yn hapus â hi. Byddwch yn cael e-bost yn awtomatig i gadarnhau derbyn eich ffurflen ar ôl ichi ei chwblhau.

Os byddai well gennych gwblhau’r ffurflen enwebu all-lein, anfonwch e-bost at gwobrauaddygsu@llyw.cymru gyda’ch manylion cyswllt a’r categori perthnasol ar gyfer yr enwebai.

Pwy gewch chi ei enwebu

  • Gall enwebeion gynnwys athrawon cymwysedig a staff cymorth/gwaith ieuenctid disgyblion rhwng 3 a 18 oed mewn lleoliadau ysgol a gynhelir.
  • Mae pob athro llawn amser, rhan amser a pheripatetig, rheolwr busnes / bwrsar a chynorthwyydd addysgu o bob pwnc a maes gweithgaredd yn gymwys i gael ei enwebu, gan gynnwys penaethiaid sy'n addysgu ac nad ydynt yn addysgu, mewn lleoliadau a gynhelir.
  • Ni chewch enwebu rhywun sydd wedi ymddeol neu a fydd yn ymddeol cyn diwedd mis Ebrill 2022 ar gyfer gwobr. 
  • Ni all y Gwobrau dderbyn enwebiad ar gyfer rhywun sydd wedi marw  nac ar gyfer ymarferwr sydd wedi ymddeol. 
  • Ni chaiff unigolion enwebu eu hunain ar gyfer gwobr. 
  • Caniateir i Wobrau Addysgu Proffesiynol Cymru wahardd unrhyw enwebai ar unrhyw adeg yn ôl ei ddisgresiwn ei hun.

Awgrymiadau ar gyfer enwebu

  • Teipiwch eich enwebiad ar ffurf dogfen Word yn gyntaf. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i’w wirio a’i newid cyn copïo a gludo’r gwaith i’ch ffurflen. Byddwch yn arbed amser a bydd yn eich galluogi i gyfleu eich neges yn fwy eglur.
  • Os nad ydych yn adnabod y sawl yr ydych yn ei enwebu yn bersonol, rhowch cymaint o fanylion ag y gallwch, gan gynnwys manylion cyswllt, os yn bosibl. 
  • Dewiswch y categori cywir. Meddyliwch am y math o weithgareddau a/neu’r rolau y mae’r enwebai wedi rhagori ynddynt. 
  • Rhowch esiamplau da. Esboniwch bob tro sut y mae eich enwebai wedi llwyddo. Peidiwch â defnyddio haeriadau fel "Mae’r enwebai wedi gweithio’n galed gydol ei yrfa”; defnyddiwch dystiolaeth i esbonio beth mae’r enwebai wedi ei wneud.
  • Cofiwch esbonio: pwy ydyn nhw, beth yn union y maen nhw wedi’i wneud, a pham eu bod yn haeddu Gwobr Addysgu Proffesiynol Cymru. 
  • Peidiwch ag enwebu’r un person yn yr un categori fwy nag unwaith. Ni fydd nifer yr enwebiadau’n newid y canlyniad.

Prif ddyddiadau

  • 7 Hydref 2021 - Dechrau’r cyfnod enwebu
  • 23 Tachwedd 2021 - Diwedd y cyfnod enwebu
  • Mehefin 2022 - Cyhoeddi’r rhestr fer
  • 10 Gorffennaf 2022 - Seremoni Wobrwyo

Beirniadu

Panel cenedlaethol o feirniaid sy’n dewis pwy sy’n cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y 10 categori.

Cynrychiolwyr Gwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru fydd y beirniaid, yn gweithio gyda chynrychiolwyr o'r consortia rhanbarthol i wneud yn siŵr bod pob enwebiad yn cael y sylw llawn. 

Rôl aelodau’r panel yw beirniadu a sgorio’r enwebeion yn unol â’r meini prawf y cytunwyd arnynt. Bydd Llywodraeth Cymru’n cydgysylltu’r broses ac yn sicrhau bod y paneli beirniadu’n gweithredu mewn ffordd deg.

Bydd y panel yn cyfarfod i drafod yr enwebeion a bydd y rhestrau byr yn cael eu cyhoeddi yn Mehefin 2022.

Hysbysiad Preifatrwydd GDPR

Drwy gyflwyno eich ffurflen enwebu rydych chi'n cydsynio i'n hysbysiad preifatrwydd.  Ceir dwy ffurflen sy'n cyfeirio at yr enwebai a'r enwebydd.