Neidio i'r prif gynnwy

First Minister Mark Drakeford is calling on the people of Wales to help find the country’s most extraordinary people, by nominating them for a St David Awards.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford yn galw ar bobl Cymru i helpu i ddod o hyd i bobl fwyaf hynod y wlad, drwy eu henwebu ar gyfer un o Wobrau Dewi Sant.

Bellach yn eu hwythfed flwyddyn, nod y gwobrau cenedlaethol hyn yw dathlu gwir arwyr Cymru. Eleni, er mwyn adlewyrchu’r cyfraniad a wnaed gan gynifer o bobl yn ystod pandemig y coronafeirws, bydd gwobr newydd i gydnabod gweithwyr hanfodol.

Bydd y panel dyfarnu hefyd yn ystyried enwebiadau ym mhob un o’r categorïau ar gyfer pobl sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol yn ystod y pandemig – p’un a yw hwnnw drwy weithredoedd caredig neu anhunanol i gefnogi unigolyn, cymuned neu fusnes – gan helpu’r ymdrech genedlaethol.

Dyma gategorïau’r gwobrau:

  • Gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol)
  • Dewrder
  • Ysbryd y Gymuned
  • Diwylliant a Chwaraeon
  • Busnes
  • Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Dyngarol
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Ni fyddem wedi gallu ymateb i’r pandemig heb ymroddiad a gwaith caled ein gweithwyr hanfodol ar hyd a lled Cymru. I gydnabod hynny, rwy wedi ychwanegu categori newydd at y rhestr o Wobrau Dewi Sant.

“Rwy’n galw ar bawb i’n helpu i gydnabod ein harwyr bob dydd – p’un a yw’r arwyr hynny’n aelodau o’r teulu, yn gyfeillion, yn gydweithwyr neu’n gymdogion – drwy eu henwebu ar gyfer gwobr.

“Gyda’ch help chi, gallwn ddathlu hoelion wyth ein cymuned, pobl sy’n ysbrydoli ac yn arwain newidiadau cadarnhaol, pobl eithriadol ym maes chwaraeon, gwyddonwyr sy’n gwthio’r ffiniau o ran yr hyn yr ydym yn credu y gallwn ni ei gyflawni, ein harloeswyr a’r gwneuthurwyr diwylliant sy’n ein helpu i ddeall ein byd mewn ffyrdd newydd, a’r bobl hynny sy’n mynd hyd yn oed y tu hwnt i’r filltir ychwanegol, ac sy’n ein hatgoffa nad oes angen i rywun wisgo clogyn i fod yn arwr.”

Mae’r enwebiadau bellach ar agor tan 15 Hydref, a gellir eu gwneud drwy wefan Gwobrau Dewi Sant.