Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae Academi Ffilm Blaenau Gwent yn cael ei redeg gan Cymru Creations, a dyma'r academi ffilm gyntaf yng Nghymru sy'n cynnig hyfforddiant i bobl ifanc 7–17 mlwydd oed yn rhad ac yn ddim.

Mae'r academi yn Nhredegar. Agorodd ym mis Mawrth 2018 ac mae dosbarthiadau mewn sgriptio, actora a gwneud ffilmiau'n cael eu cynnal dair gwaith yr wythnos.

Yn ystod ei 18 mis cyntaf mae'r academi wedi denu 150 o aelodau, ac mae'r bobl ifanc wedi creu 37 ffilm fer yn seiliedig ar eu syniadau eu hunain. Mae'r ffilmiau hyn yn cynnwys The Bench, ffilm oruwchnaturiol sydd wedi ennill gwobrau a gafodd eu ffilmio yng Ngwlad Pwyl, ac a oedd yn cynnwys plant ysgol o Gymru a Gwlad Pwyl.

A Knight of the Blood Moon, ffilm arswyd y cafodd pob golygfa ei ffilmio yn Nhredegar sydd wedi cael ei henwebu a'i dangos mewn arddangosfeydd yn America. Maen nhw hefyd wedi gweithio ar raglen ddogfen - How The Welsh Changed the World: A Tale of Two Tredegars, sy'n seiliedig ar y cysylltiadau rhwng y gweithiau haearn yn Nhredegar a'r gweithiau haearn yn Richmond, Virginia.

Cafodd eu prosiect mwyaf hyd yn hyn ei alluogi drwy gynllun Dollar Baby Stephen King, lle roedden nhw'n gallu prynu’r hawliau (am flwyddyn) i wneud addasiad o un o storïau byrion Stephen King am $1. Gan ddefnyddio cyllideb fach iawn, chwaraeodd pob myfyriwr ran yn y cynhyrchiad i ryw raddau. Helpodd y myfyriwr hŷn i droi'r stori fer yn sgript, yn ogystal â chreu bwrdd stori, a dysgodd y ddau fyfyriwr a gafodd y syniad sut i gyfarwyddo a threfnu cast a chriw. Chwaraeodd y myfyrwyr iau rannau achlysurol mewn amrywiaeth o olygfeydd, gan fireinio'r sgiliau maen nhw wedi bod yn eu dysgu yn yr academi. Mae'r ffilm bellach wedi cael ei chwblhau ac wedi cael ei henwebu ar gyfer pedair gwobr yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Fusion yn Nwyrain Ewrop, yn ogystal â World Premier Films yn Hollywood LA.