Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Mae Adrian Emmett yn entrepreneur lleol cymunedol, a landlord tafarn cyfeillgar. Mae ganddo dros 25 mlynedd o brofiad yn y diwydiant lletygarwch, yn gweithio ym mhob cwr o'r Deyrnas Unedig. Naw mlynedd yn ôl, dychwelodd adref i Gymru ac erbyn hyn mae'n rhedeg dwy dafarn yn Nhreorci a oedd wedi'u cau yn y gorffennol, ac yn cyflogi dros 40 o staff lleol.

Mae'r dafarn bellach yn ased i'r gymuned sydd wedi ennill gwobrau gan The Great British Pub Awards am y Bar Chwaraeon Gorau a'r Dafarn Gymunedol Orau yng Nghymru. Mae'r Lion yn ganolbwynt i'r gymuned, yn gartref i 15 o dimau chwaraeon, dros ddwsin o grwpiau lleol ac yn cefnogi llawer o achosion ac elusennau lleol, gan godi dros £29,000 yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae Adrian yn ymwneud yn helaeth ag ysgolion lleol, yn cynnig profiad gwaith, yn cynnal cyrsiau lletygarwch ac yn rhedeg Her Presennoldeb y Lion sy'n cefnogi presenoldeb ysgol dros 11,000 o ddisgyblion mewn 44 o ysgolion.

Mae Adrian yn cadeirio'r Pubwatch a'r Siambr Fasnach leol, gan dyfu ei aelodaeth o 30 i 120 o Aelodau. Mae wedi sicrhau £25,000 o arian grant ar gyfer y dref, wedi lansio cynllun ' Visit Treorci ' ac roedd yn ffigur allweddol o ran sefydlu ardal gwella busnes Treorci.

Mae Adrian yn cefnogi nifer o ddigwyddiadau lleol gan gynnwys Gŵyl Gelfyddydau'r Rhondda, sinema awyr agored, arddangosfa tân gwyllt y dref a gorymdaith y Nadolig, i enwi dim ond rhai.

Mewn ardal lle mae llawer o gymunedau yn ei chael hi'n anodd, mae'r hen dref lofaol hon mewn gwirionedd yn mynd yn groes i'r duedd gyda mwy na 25 o fusnesau newydd yn agor yn ystod y tair blynedd diwethaf. Eleni, mae Treorci wedi cael ei goroni yn bencampwr Stryd Fawr Prydain Fawr, ac Adrian yn Arwr y Stryd Fawr.