Neidio i'r prif gynnwy

Enwebwyd ar gyfer gwobr Gwirfoddoli

Mae Advocates a Angels, elusen o wirfoddolwyr a sefydlwyd yn Abertawe gan Bethan Germon er cof am ei merch Lydia, yn llusern o obaith i deuluoedd Cymru sy'n wynebu anabledd, salwch, ysbyty neu brofedigaeth.

Wedi'u hysgogi gan brofiad personol a thosturi, mae Bethan a'i thîm ymroddedig o wirfoddolwyr di-dâl yn darparu Pecynnau Gofal Chrysalis brys hanfodol i rieni a phlant ar adegau o argyfwng, gan sicrhau cysur ac urddas pan fo ei angen fwyaf. Mae nhw hefyd yn trefnu adnoddau pwrpasol ar gyfer gofalwyr plant ag anghenion cymhleth, yn ogystal â'r Clwb Glöynnod Byw, sy'n cynnig cysur i deuluoedd mewn profedigaeth.

Bellach mae Advocates a Angels wedi helpu dros 10,000 o deuluoedd. Maen nhw’n gweithio mewn partneriaeth agos â wardiau, hosbisau a grwpiau cymunedol y Gwasanaeth Iechyd, gan ddarparu eiriolaeth a chymorth Cymraeg rhwng cymheiriaid.

Er gwaethaf cyllid cyfyngedig a dim staff cyflogedig, mae empathi, dyfeisgarwch ac ymrwymiad diwyro yr elusen yn sicrhau nad oes unrhyw deulu yng Nghymru yn wynebu caledi neu alar ar ei ben ei hun. Dyma yw  gwir ysbryd gweithredu gwirfoddol a gofal cymunedol.