Alan Williams
Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon
Mae Alan yn hyfforddwr hwylio dingi cenedlaethol o Gaernarfon ac mae hefyd yn meithrin hyfforddwyr.
Mae wedi bod yn allweddol wrth hyfforddi a chefnogi hwylwyr ifanc i ddatblygu o hwylio dingi yn lleol ar ddyfroedd a llynnoedd arfordirol Cymru i gystadlaethau hwylio rhyngwladol a'r Gemau Olympaidd.
Mae Alan yn hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, yn aml mewn amodau môr heriol a gwyntoedd cryfion, gan helpu morwyr i ddatblygu eu sgiliau.
Mae wedi ysbrydoli sawl cenhedlaeth ac wedi sicrhau bod morwyr a'u teuluoedd yn mwynhau’r gamp gydol eu hoes. Mae llawer ohonynt bellach yn ymwneud yn broffesiynol neu'n gwirfoddoli ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Mae Alan yn addysgu cymwysterau hyfforddi cenedlaethol ac mae wedi ysgrifennu dau lyfr hyfforddi hwylio dingi sydd wedi'u cyfieithu i nifer o ieithoedd.
Mae wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu strategaeth rheoli diogelwch ar lefel y DU ac mae'n angerddol dros gyflawni rhagoriaeth ym maes hyfforddi a mentora.
Yn 2019, derbyniodd Alan Wobr Cadwyn Hyfforddi BBC Wales a Sports Coach UK am hyfforddi Hannah Mills OBE(MBS) OLY, ac yn 2003 enillodd deitl Hyfforddwr Rasio y Flwyddyn y DU gan y Gymdeithas Hwylio Frenhinol.
