Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Diwylliant enillydd 2024

Mae elusen Aloud yn newid bywydau pobl ifanc ledled Cymru drwy bŵer cyd-ganu. Mae eu gweithgareddau'n cynnig cyfleoedd unigryw i bobl ifanc, gan roi'r hunanhyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial. Wedi'i sefydlu yn 2012, mae gan yr elusedn dair prof elfen i'w gwaith:

Mae Only Boys Aloud yn wfftio’r ystrydeb o uchelgais isel sy'n effeithio ar ddynion ifanc Cymru. Trwy ganu a gweithgareddau tîm, mae OBA yn codi hunan-barch a chymhelliant, gan adeiladu ymdeimlad cryf o gymuned a brawdgarwch. Gyda 200 o fechgyn mewn11 côr, mae OBA yn cyfarfod yn wythnosol yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru a does dim angen clyweliad na thalu ffi i ymuno.

Mae Only Kids Aloud yn gôr o 80 o ferched a bechgyn ysgol gynradd o bob rhan o Gymru. Mae'r côr yn rhedeg gweithdai preswyl yn flynyddol. Yn niffyg unrhyw gôr plant cenedlaethol yng Nghymru, mae'r OKA Chorus yn gyfle unigyrw i gantorion ifanc uchelgeisiol ddisgleirio.

Only Girls Aloudyw'r côr mwyaf newydd i ymuno â'r teulu Aloud. Heb unrhyw ffioedd na chlyweliadau, mae'r côr ysbrydoledig hwn yn cynnwys 100 o ferched 13-18 oed o Dde a Gorllewin Cymru. Mae'r grŵp yn trefnu siaradwyr gwadd i rannu eu profiadau bywyd ac yn cefnogi ei gilydd i ddatblygu hyder a hunanfynegiant.