Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Chwaraeon

Mae Alun Wyn Jones yn chwaraewr rygbi undeb o safon fyd-eang sy'n gapten tîm cenedlaethol Cymru a'r Gweilch. Mae'n dal y record am fod yn glo gyda'r mwyaf o gapiau erioed i Gymru, ac ef yw’r chwaraewr gyda’r ail fwyaf o gapiau i Gymru hefyd. Mae hefyd wedi ennill naw o gapiau ar gyfer Llewod Prydain ac Iwerddon, ac mae'n un o blith saith chwaraewr yn unig sydd wedi llwyddo i guro De Affrica, Awstralia a Seland Newydd wrth deithio'r gwledydd hyn gyda'r Llewod. Ef oedd y chwaraewr cyntaf i chwarae ym mhob gêm ryngwladol ar dair taith olynol ar gyfer Llewod Prydain ac Iwerddon.

Ganwyd Alun yn Abertawe, a dechreuodd ar ei yrfa'n chwarae rygbi i Glwb Rygbi Bon-y-maen cyn symud ymlaen i chwarae i'r Gweilch am y deuddeg mlynedd ddiwethaf. Ar ôl cynrychioli Cymru ar lefel dan 21 oed yn y gorffennol, chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf i Gymru ym mis Mehefin 2006 yn erbyn yr Ariannin. Yn 2008, roedd yn aelod o dîm buddugol Cymru a enillodd y Gamp Lawn.

Yn 2009, chwaraeodd yn gapten i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Yn 2013, dewiswyd Alun Wyn yn gapten eilydd ar gyfer y drydedd gêm ryngwladol – a’r un olaf – yn ystod taith Llewod Prydain ac Iwerddon o Awstralia, a enillodd y Llewod 41–16. Roedd hyn yn golygu mai ef oedd y capten eilydd cyntaf i arwain y Llewod i fuddugoliaeth mewn gêm ryngwladol derfynol cyfres er 1904. Ar 8 Rhagfyr 2016, torrodd Alun Wyn record blaenwyr y Gweilch am sgorio'r nifer mwyaf o geisiadau wrth iddo osod ei 21ain cais.