Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Pencampwr yr Amgylchedd enillydd 2023

Mae Andy Rowland, sydd wedi’i leoli ym Machynlleth, wedi bod yn gweithio’n ddiflino dros y 30 mlynedd ddiwethaf i warchod amgylchedd Cymru. Mae wedi ymroi ei fywyd i wella cymunedau i bobl yng Nghanolbarth Cymru a hyrwyddo economi gwyrdd sy’n tyfu.

Llwyddiant mwyaf Andy fu creu’r fenter gymdeithasol ddwyieithog ‘Ecodyfi,’ sef Ymddiriedolaeth Ddatblygu nid-er-elw, sy’n darparu dulliau adfywio cymunedol cynaliadwy. Cafodd Ecodyfi ei sefydlu yn 1998, ac mae’n darparu ystod eang o brosiectau adfywio cymunedol. Mae Andy wedi arwain ar bob un ohonynt, gan weithio’n aml ar ei ben ei hun, am oriau hir. 

Am y deng mlynedd diwethaf mae Andy wedi darparu’r Ysgrifenyddiaeth yn Ecodyfi ar gyfer Gwarchodfa Biosffer Dyfi a ddynodwyd gan UNESCO. Mae wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r canfyddiad bod Machynlleth yn un o’r trefi mwyaf gwyrdd a blaengar yn y DU.

Mae Andy’n adnabyddus fel y person a all sbarduno mentrau cymunedol ym Mro Ddyfi, yn enwedig os ydynt yn ymwneud â gwella’r amgylchedd. O ganlyniad, mae wedi helpu Machynlleth i ddenu mewnfuddsoddiad sylweddol, gan gefnogi diwydiannau’r dyfodol a denu nifer anghymesur o bobl ifanc talentog, gofalgar, crefftus a chymwys i fyw yn yr ardal.

Yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae Andy yn arloeswr o ran hyrwyddo’r ddealltwriaeth nad oes gwir wahaniaeth rhwng gwarchod treftadaeth naturiol Cymru a’i threftadaeth ddiwylliannol, o ran cynaliadwyedd.