Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Ysbryd y gymuned

Yn 2015 aeth Angela Bullard ati gyda’i gŵr Fred a’i ffrind Trisha Mardona i sefydlu Gwirfoddolwyr Cymunedol Sblot, sef Clwb Brecwast cymunedol mewn ardal ddifreintiedig o Gaerdydd.

Dechreuodd Angela yr elusen yn y ganolfan gymunedol leol, ond bellach mae’r elusen yedi trawsnewid – mae’n helpu cannoedd bob mis ac mae ganddi ei staff a'i hadeiladau ei hun. Yn ogystal â chynnig cymorth gyda bwyd i’r defnyddwyr gwasanaeth mae’r elusen wedi helpu’r gwirfoddolwyr i ddod o hyd i swyddi parhaol.

Mae'r Clwb Brecwast yn rhoi cyfle i greu rhwydweithiau cymdeithasol ac yn galluogi pobl o ddiwylliannau a chefndiroedd amrywiol i ddod at ei gilydd a ffurfio cysylltiadau a chyfeillgarwch cadarn, gan gryfhau'r gymuned y maent yn byw ynddi a sicrhau effaith gadarnhaol hirhoedlog.

Mae llawer o deuluoedd sydd ar incwm isel wedi dod i ddibynnu ar yr elusen am bryd o fwyd poeth neu'r cyfle i fynd â bag bwyd am ddim o fwyd dros ben a ddarperir gan Fareshare a’r archfarchnadoedd lleol. Mae'r Clwb Brecwast hefyd yn darparu nwyddau ymolchi a chefnogaeth gan amrywiaeth o asiantaethau partner.

Mae Angela yn gweithio bob dydd yn y Clwb Brecwast gan gynnig croeso cynnes, haelioni a lletygarwch. Dyma le diogel i deuluoedd, plant a rhieni/gofalwyr gael pryd poeth a maethlon gyda'u cymdogion.