Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Rhyngwladol

Mae Angela yn Brif Swyddog Gweithredol ac yn gyd-sylfaenydd Life for African Mothers.

Yn 2005, gwyliodd Angela raglen ddogfen BBC Panorama 'Dead Mums Don't Cry' a oedd yn dangos brwydr un fenyw i atal menywod rhag marw wrth roi genedigaeth yn Chad. Fe'i hysbrydolwyd yn llwyr gan Dr Grace Kodindo, a sefydlodd Angela Life for African Mothers yn 2006 (a alwyd gynt yn Hope for Grace Kodindo). Mae Angela yn nyrs neo-enedigol sydd wedi ymddeol, ac yn hytrach na mwynhau ymddeoliad ymlacedig, mae'n ceisio dod o hyd i feddyginiaeth hanfodol, yn darparu addysg, ac yn anfon bydwragedd i rai o wledydd tlotaf Affrica. Mae deg ar filoedd o fywydau wedi cael eu hachub o ganlyniad i'w hymdrechion. Mae Angela yn teithio i Affrica i roi help uniongyrchol i famau a babanod yn rhai o gymunedau tlotaf Affrica, er enghraifft yn Sierra Leone a Liberia. Yn aml, mae'n defnyddio ei harian ei hun i ariannu'r elusen, gan ymdrechu'n ddiflino i sicrhau beichiogrwydd a genedigaethau diogel i fenywod nad ydynt yn gallu cael mynediad at ofal na meddyginiaeth hanfodol.

Yma yng Nghymru, mae Angela yn codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau a thrwy siarad â grwpiau mewn ysgolion ledled Cymru a thu hwnt. Mae'n hyrwyddwr gwydn dros hawliau dynol, ac yn amddiffynnydd brwd dros y rhai sydd o dan anfantais o ganlyniad i dlodi llethol.

Mae'n dwli ar bopeth o Gymru ac ar rygbi, ac yn ysbrydoliaeth i fenywod a sefydliadau. Mae hi'n teithio ledled y DU ac Affrica ar daith anhunanol i gynyddu cefnogaeth ac ymwybyddiaeth o iechyd mamol yn Affrica Is-Sahara.