Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Dinasyddiaeth

Mae Anthony Evans o Aberdâr wedi bod yn ymgyrchu am addysg ôl-19 i oedolion sy’n ddifrifol anabl; gan gael ei sbarduno tra’r oedd yn chwilio am ffordd addas o wella addysg ei fab Arwel, sy’n ddifrifol anabl, ymhellach. 

Dywedwyd wrth Anthony a’i wraig Claire na fyddai Arwel byth yn siarad nac yn cerdded ac y byddai’n llwyr ddibynnol ar eraill am bopeth. Mae Arwel bellach yn 19 oed ac mae ganddo rywfaint o leferydd diolch i gymorth a gafodd yn ei ysgol flaenorol, er nad oedd llawer neu ddim darpariaeth ar gyfer addysg ôl-19. 

Fe ddyfalbarhaodd Anthony â llwybrau amrywiol; colegau, sefydliadau addysgol preifat, ac yna yn y pen draw daeth ar draws National Star College, sef coleg preswyl yn Cheltenham. Heb os nac oni bai roedd gan National Star College yr arbenigedd, y cymorth therapiwtig a’r rhaglenni dysgu i helpu myfyrwyr ag anawsterau corfforol a dysgu, ond coleg preswyl ydoedd. Dyma’r union beth yr oedd Anthony, Claire a rhieni eraill yn chwilio amdano. Fodd bynnag, nid oeddent yn teimlo y byddai eu plant yn gallu dygymod â byw oddi cartref gan eu bod mor ddibynnol ar eu teulu a hefyd yn ddiamddiffyn iawn. Ar ôl cyfarfod gyda Chyfarwyddwr National Star ar gyfer busnes newydd, cytunodd National Star fod angen coleg dydd yng Nghymru. Wedyn fe wnaeth Anthony ganlyn arni â’i achos gyda sefydliadau amrywiol. 

Cytunodd Star College i sefydlu lleoliad dydd ar gyfer oedolion ifainc anabl yng Nghymru. Dechreuodd y ddarpariaeth coleg dydd ym mis Medi 2016 yn agos at goridor yr M4 fel bod staff yng Ngholeg Cheltenham a myfyrwyr yn gallu cael mynediad hawdd ati. Mae Anthony wedi bod yn rhan o bob agwedd ac yn ffigwr canolog yn y gwaith o sefydlu’r coleg dydd cyntaf i oedolion ifainc sy’n ddifrifol anabl yng Nghymru. Mae hyn nid yn unig wedi creu cyfleoedd i oedolion ifainc sy’n ddifrifol anabl yng Nghymru barhau i ddatblygu, ond mae hefyd wedi darparu cyfleoedd swyddi a chymorth pwysig ar gyfer teuluoedd eraill yng Nghymru.