Neidio i'r prif gynnwy

Antur WaunfawrMae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol flaengar sy’n darparu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. 

Wedi’i sefydlu yn 1984, mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed yn 2014. Mae’r cwmni’n cyflogi dros 60 o ddefnyddwyr gwasanaeth a 100 aelod staff, ac mae ganddo drosiant blynyddol o £2.1m. 

Mae’r Antur yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd profiad gwaith i’w ddefnyddwyr: arlwyo/lletygarwch yn y caffi, garddio/cynhyrchu bwyd ar eu llain 7-erw, mewnbwn creadigol yn y siop grefftau, gwerthu a didoli dillad, adnewyddu a gwerthu dodrefn yn y warws a delio gyda gwastraff ailgylchu a gwastraff cyfrinachol yn y ffatri ailgylchu, yn ogystal â thasgau gweinyddol yn y brif swyddfa.

Mae’r Antur yn gweithio’n galed i fod yn rhan o’r gymuned leol a’i chyfoethogi. Mae’n cynnal nifer o ddigwyddiadau blynyddol (Gŵyl Fai a Miri Siôn Corn) ac mae holl drigolion Waunfawr a’r cyffiniau yn cael eu gwahodd. Mae’r Antur yn chwarae rhan enfawr ym mywydau llawer o bobl. Mae eu prosiectau wedi cael effaith gadarnhaol ar yr ardal, ac mae’r gymuned leol wedi cymryd Antur at eu calonnau.