Neidio i'r prif gynnwy

The Cory Band

Mae gan y Cory Band wreiddiau dwfn iawn yng nghymuned leol Treorci, Rhondda Cynon Taf. Maent yn adnabyddus ar draws y byd yn sgil eu llwyddiant mewn cystadlaethau, amrywiol recordiau, cyngherddau a rhaglenni addysg gymunedol.

Yn 2013 llwyddodd y band i ennill Pencampwriaeth Ewrop yn Oslo unwaith eto. Nhw hefyd yw pencampwyr Brass in Concert 2013, ac maent wedi cwblhau taith o amgylch Awstralia gan gynnal 11 cyngerdd gerbron miloedd o bobl. Ym mis Mawrth 2013, lansiodd y Cory Band raglen gwaith maes ieuenctid gyda’r nod o ddenu cerddorion newydd. Mae’r Cory Academy yn annog rhagor o gysylltiad gydag ysgolion a phobl ifanc, mwy o gyfranogiad mewn cerddoriaeth bandiau pres, a rhagor o gydweithio rhwng chwaraewyr offerynnau pres a bandiau pres ar draws Cymru.

Mae’r band wedi ymroi i chwarae cerddoriaeth newydd ac mae ganddo bolisi comisiynu byw. Cyfansoddwr Preswyl y band ar hyn o bryd yw’r Cymro, Gareth Wood.