Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Person Ifanc

Benjamin Trewartha o Bentre’r Eglwys yw sylfaenydd Health4Curriculum, a sefydlwyd i ychwanegu hyfforddiant cymorth cyntaf ac iechyd meddwl at y cwricwlwm yn ysgolion Cymru.

Meddyliodd Benjamin am y syniad ar gyfer Health4Curriculum ar ôl i’w dad gael trawiad ar y galon wrth aros yn yr uned damweiniau ac achosion brys i gael ei drin am anaf arall a sylweddolodd Ben na fyddai wedi gwybod beth i’w wneud pe bai hynny wedi digwydd gartref. Ysgogodd hyn iddo wneud ei gwrs cymorth cyntaf gyda’r British Heart Foundation.

Pedair blynedd yn ddiweddarach, llewygodd cyd-fyfyriwr yn y dosbarth a chryfhaodd hyn cred Benjamin y dylai pob myfyriwr gael hyfforddiant cymorth cyntaf gan mai ef oedd yr unig berson a oedd yn gwybod beth i’w wneud yn y sefyllfa honno.

Mae’r cynnwys ar gyfer y modiwl hyfforddiant ‘Save a Mate’ bron a chael ei gwblhau ac mae’n cyfeirio at ddeunyddiau hyfforddiant arferion golau ac at brofiadau meddygon eu hunain. Mae Benjamin wedi cynnal gwahanol arolygon ag ysgolion a myfyrwyr ac mae wedi ymchwilio i ba ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn y sector gwirfoddol ac mewn ysgolion dramor.

Mae cynlluniau peilot wedi’u trefnu ag ysgolion lleol i brofi’r modiwl hyfforddiant.

Mae gan Health4Curriculum ail nod hefyd - i sicrhau ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ar y cwricwlwm. Mae’r fenter hon ar y cam o gasglu gwybodaeth a bydd yn canolbwyntio ar amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder a gorbryder a bydd yn helpu pobl i ddysgu sut mae adnabod symptomau, ble i fynd i gael cymorth a sut i gydymdeimlo â’r rhai hynny sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.