Neidio i'r prif gynnwy

Enwebwyd ar gyfer gwobr Gwirfoddoli

Mae Brian Jones, o Benmaenmawr, Sir Conwy, wedi gwirfoddoli gyda thîm Cŵn Chwilio ac Achub Rhyngwladol Prydain (BIRD) ers dros bedwar degawd. Nawr yn ei 80au, mae Brian yn parhau i chwarae rôl ganolog fel arweinydd tîm, gan arwain BIRD trwy argyfyngau di-ri gartref a thramor.

Mae Brian wedi bod yn allweddol yn ystod digwyddiadau mawr fel daeargrynfeydd (2 yn Nhwrci, India, Pacistan, Algeria) a llifogydd (Mozambique) ac wrth gefnogi ymdrechion dyngarol ar gyfer ffoaduriaid Kosovo ac Wcráin. Yn ogystal, mae wedi helpu i chwilio am lawer o bobl ar goll yng Nghymru a Lloegr.

Mae ymroddiad cadarn Brian hefyd i’w weld yn ei waith diflino i godi arian arian. Mae’n sefyll ym mhob tywydd yn arwerthiant cist car Mona bob wythnos i sicrhau bod gwaith hanfodol y tîm cŵn achub yn parhau. Mae Brian wastad yn barod i rannu ei ddoethineb gyda chenedlaethau o wirfoddolwyr a chynnig cefnogaeth heb ragfarn.

P'un a yw'n trefnu hyfforddiant, mynychu lleoliadau rhyngwladol, neu’n rhoi clust i wrando, mae gostyngeiddrwydd a dewrder Brian yn ei osod ar wahân. Mae ei ymrwymiad gydol oes i helpu eraill wedi gwneud gwahaniaeth mawr, gan sefydlu BIRD fel conglfaen gwasanaethau achub a gwneud Brian yn enwebai gwirioneddol haeddiannol ar gyfer y wobr hon.