Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Busnes

Becws Danaidd yw Brød, a sefydlwyd yn 2015 gan Betina Skovbro. Dyma esiampl ddisglair o dreftadaeth ddiwylliannol a rhagoriaeth fusnes yng Nghaerdydd. O’i gwreiddiau yn Denmarc, mae Betina wedi cyflwyno pobi Sgandinafaidd i Gymru, gan drawsnewid Brød o gaffi bach cymdogol i fecws crefftus sy’n enwog yn genedlaethol.

Gan groesawu miloedd o gwsmeriaid bob wythnos, mae Brød wedi tyfu’n ganolfan gymunedol unigryw, fywiog. Bellach mae'r busnes yn gweithredu ar bedwar safle ac yn cyflogi dros 40 o staff, gan feithrin talent o’r sylfaenol hyd at y mwyaf medrus. Gydag ymroddiad cryf i gynaliadwyedd economaidd, mae Brød wedi cynnal deg prentisiaeth yn ei ddegawd cyntaf, gan roi cyfleoedd pwysig i bobyddion newydd ddatblygu eu sgiliau.

Yn ogystal, mae Brød yn blaenoriaethu'r economi leol trwy defnyddio cynhwysion lleol a lleihau gwastraff bwyd trwy blatfformau digidol fel Too Good To Go. Mae'r cyfuniad eithriadol hwn o draddodiad diwylliannol, crefftwaith medrus ac ysbryd cymunedol yn gwneud Brød yn enwebai gwirioneddol haeddiannol ar gyfer Gwobr Dewi Sant am Fusnes yng Nghymru.

Ymunwch â ni ar y cyfryngau cymdeithasol