Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Dewrder enillydd 2024

Sgowt Explorer o'r Rhondda yw Callum Smith, a achubodd ddyn ifanc oedd ar fin lladd ei hun. Roedd Callum yn cerdded dros bont droed uwchben ffordd osgoi brysur pan welodd y gŵr ifanc oedd wedi dringo dros y canllaw diogelwch ac yn sefyll ar ymyl y bont fel pe bai am neidio. Wrth weld ei fod mewn trallod, meddyliodd Callum yn gyflym am beth i’w wneud. Cadwodd ei hunanfeddiant. Wrth nesáu yn dawel at y dyn ifanc, dechreuodd siarad ag ef gan sefyll yr ochr arall i'r canllaw.

Unwaith iddo adeiladu perthynas ac ymddiriedaeth gyda'r dyn ifanc, a symud yn ddigon agos ato, dyna Callum yn gafael ynddo gan lapio ei freichiau o amgylch ei ganol. Cadwodd afael yn gadarn ynddo nes i'r Heddlu gyrraedd a chymryd drosodd.

Nid oedd gan Callum unrhyw hyfforddiant blaenorol wrth ddelio â sefyllfa fel hon. Dangosodd ddewrder rhagorol yn ei weithred. Mae wedi achub bywyd.