Canolfan Barrett ar gyfer Rheoli Helminth
Enwebiad ar gyfer gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Mae'r gwyddonwyr yng Nghanolfan Barrett ar gyfer Rheoli Helminth, Prifysgol Aberystwyth, ar flaen y gad yn fyd-eang ym maes parasitoleg, gan gyfuno canrif o dreftadaeth wyddonol Cymru ag ymchwil fodern arloesol.
Yn enwog am eu gwaith arloesol ar y pryf llydan (flatworm) parasitig, maent wedi astudio cylch bywyd cymhleth a gwendidau yr organebau dinistriol hyn, sy'n bygwth iechyd miliynau o bobl ledled y byd ac yn achosi colledion enfawr i amaethyddiaeth. Mae eu dull trawsddisgyblaethol wedi arwain at ddatblygiadau mewn bioleg foleciwlaidd, brechlynau a chyffuriau, a’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial wrth ddarganfod cyffuriau.
Mae dulliau canfod DNA amgylcheddol y Ganolfan wedi trawsnewid dulliau rheoli da byw yng Nghymru a thu hwnt, gan atal clefydau yn gynharach ac yn well. Mae eu hymchwil yn achub bywydau ond hefyd yn diogelu bywoliaeth ffermwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol dryw gyfnewid gwybodaeth ac atebion ymarferol. Mae gweledigaeth y tîm ymroddedig hwn yn enghraifft o arloesedd Cymru—gan gyfuno trylwyredd gwyddonol, tosturi, a gweithio gyda’r gymuned i daclo rhai o heriau iechyd a diogelwch bwyd mwyaf y byd.
