Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillwyr 2023

Cwmni allgynhyrchu yw CanSense a ffurfiwyd ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017. Cafodd CanSense ei sefydlu gan yr Athro Dean Harris (llawfeddyg), yr Athro Peter Dunstan (ffisegydd), Dr Cerys Jenkins (ffisegydd) a Dr Adam Bryant (Prif Swyddog Gweithredol), ac mae’n dwyn ynghyd dîm o glinigwyr, gwyddonwyr, technolegwyr ac arbenigwyr busnes ymroddgar, brwdfrydig ac angerddol, sy’n gweithio ar brofion diagnostig newydd arloesol a mwy cywir ar gyfer canfod canser y coluddyn yn gynnar. Y math hwn o ganser yw’r ail fath o ganser sy’n achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau yng Nghymru.

Mae mwy na hanner y cleifion sy’n dioddef o ganser y coluddyn yng Nghymru yn cael diagnosis pan fydd y canser wedi datblygu, sy’n ei wneud yn anoddach i’w drin, ei reoli a’i wella. Mae tîm CanSense wedi defnyddio dull gweithredu amlddisgyblaethol sy’n defnyddio ffiseg, bywydeg, cemeg a deallusrwydd artiffisial i ddatblygu prawf gwaed arbennig o sensitif sy’n gallu canfod tiwmor sy’n tyfu yn y coluddyn yn gynnar.

Prawf syml yw’r prawf gwaed Raman y maent wedi ei ddatblygu, sy’n gallu nodi a oes gan glaf ganser y coluddyn ai peidio. Gellir cynnal y prawf mewn meddygfeydd, lle mae hyd at 90% o gleifion canser yn mynd pan fyddant yn cael symptomau yn y lle cyntaf. Mae gwaith paratoi yn mynd rhagddo er mwyn ei gyflwyno i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru o fewn y 2 – 3 mlynedd nesaf. Bydd yn trawsnewid y broses o roi diagnosis o ganser y coluddyn ledled Cymru, ac yn golygu y bydd mwy o fywydau yn cael eu harbed.