Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Pencampwr yr Amgylchedd

Sefydlwyd Caru Eryri i leddfu effaith twristiaeth ar le arbennig ond sensitif yn ecolegol. Maen nhw’n helpu i reoli effaith y nifer cynyddol o ymwelwyr ar Barc Cenedlaethol Eryri. Rhaglen wirfoddoli ydyw, a gynhelir mewn partneriaeth gan Barc Cenedlaethol Eryri, Cymdeithas Eryri, Y Bartneriaeth Awyr Agored a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ganddynt bresenoldeb gweladwy ar lawr gwlad mewn ardaloedd poblogaidd, yn casglu sbwriel, ymgysylltu â'r cyhoedd, a chynghori ac addysgu ymwelwyr. Mae'r grŵp hwn o wirfoddolwyr wedi gwneud gwahaniaeth rhyfeddol i amgylchedd naturiol y Parc Cenedlaethol o ystyried pwysau nifer yr ymwelwyr a'r problemau a ddaw yn sgil hyn.

Yn 2023 yn unig, casglon nhw dros 1282kg o sbwriel, dros 517 o sachau mawr, o amgylch y llwybrau mewn lleoliadau prysur ar draws y parc. Mae hwn yn brosiect syml ond effeithiol iawn sy'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r Parc Cenedlaethol, profiad yr ymwelwyr, yr amgylchedd lleol a'r gymuned sy’n dibynnu arni.