Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Busnes enillydd 2024

Sefydlwyd Case-UK ym Merthyr Tudful yn 2016 ac mae'n cynnig gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol ledled y DU. Sefydlwyd y cwmni teuluol gan Ian Benbow yn dilyn digwyddiad a newidiodd ei fywyd ac a achosodd gyfnod hir o afiechyd meddwl a diweithdra i Ian ei hun. Trwy ei brofiad ei hun, gwelodd Ian fod bwlch yn y farchnad am gwmni i roi cefnogaeth i bobl sy'n profi gorbryder a straen yn y gweithle neu anawsterau wrth ddychwelyd i'r gwaith. Penderfynodd ddefnyddio ei arian diswyddo i sefydlu Case-UK.

Yn 2018 enillodd y cwmni gytundeb cymorth iechyd meddwl i helpu pobl i aros mewn gwaith. Ers hynny mae'r cwmni wedi tyfu a bellach mae'n cyflogi 80 o bobl i ddarparu’r Gwasanaeth ‘Able Futures’ i gleientiaid mewn gwaith ac allan o waith ledled Cymru a De-orllewin Lloegr.

Mae'r cwmni hefyd wedi datblygu CASE COFFEE, brand unigryw o goffi a ddefnyddir mewn fflyd o faniau barista symudol y gellir eu masnachfreinio gan bobl sydd am ddod yn hunangyflogedig.

Un rheswm dros lwyddiant y cwmni yw ei fod yn cyflogi pobl sydd wedi dioddef salwch meddyliol neu gorfforol eu hunain ac yn gallu deall anghenion y cleientiaid. A thry gyflogi pobl leol, mae Case-UK wedi helpu economi Cymru.