Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg enillydd 2019

Mae Cerebra yn elusen sy'n gweithio i helpu teuluoedd â phlant sydd â chyflyrau ar yr ymennydd i ganfod bywyd gwell gyda'i gilydd. Maent wedi sefydlu partneriaeth gyda Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i sefydlu Canolfan Arloesi Cerebra (CIC). Gyda'u canolfan yng Ngholeg Celf Abertawe, mae tîm o beirianwyr yn cynllunio ac yn creu cynnyrch arloesol, pwrpasol i help plant anabl ddarganfod y byd o'u hamgylch. Mae eu cynlluniau yn ddeniadol a chyffrous yn ogystal â defnyddiol, gan hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol ac yn golygu bod yn plant yn maent yn eu helpu yn cael eu derbyn gan blant eraill. Mae'r cynnyrch a'r cymorth yn cael ei roi yn rhad ac am ddim.

Mae rhywfaint o'r cynnyrch pwrpasol y maent wedi'i gynllunio yn cynnwys bwrdd syrffio tandem, sy'n caniatáu i blant brofi cynnwrf syrffio, ac amrywiol offer triathlon i alluogi teuluoedd i redeg, nofio a beicio bel y mae llawer o bobl eraill. Mae cynnyrch arall yn cynnwys helmedau pwrpasol ar gyfer marchogaeth, sgwteri ar gyfer chwarae a chynnyrch i helpu dysgu a TG.