Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Gweithwyr Hanfodol (allweddol) enillydd 2021

Mae Cartref Gofal Cherry Tree, yng Nghoed-poeth, Wrecsam, yn gofalu am tua 35 o breswylwyr. Yng nghanol mis Ebrill 2020, gwirfoddolodd naw gofalwr yn y cartref i adael eu teuluoedd eu hunain am chwe wythnos er mwyn symud i'r cartref i ofalu am y preswylwyr a'u cadw'n ddiogel yn ystod cyfnod cyfyngiadau symudiad cyntaf pandemig y Coronafeirws, er mwyn lleihau'r risg o’r Coronafeirws yn dod i mewn i'r cartref.

Croesawodd teuluoedd y trigolion y weithred anhunanol gan y staff gan y gallai unrhyw achosion o’r Coronafeirws fod wedi cael effaith ddinistriol ar drigolion y cartref. Hefyd, gan nad oedd teuluoedd yn gallu ymweld â'r preswylwyr, roedd y staff yn rhoi diweddariadau i deuluoedd yn rheolaidd am eu hanwyliaid.

Dywedodd Gemma Atkins un o Gyfarwyddwyr Cartref Gofal Cherry Tree:

"Ni all geiriau fynegi pa mor falch a gwirioneddol ddiolchgar yr ydym i'r unigolion arbennig hyn. Mae'r Dirprwy Reolwr Joanne Mannering a'i thîm yn ysbrydoliaeth wirioneddol. Mae'r ymroddiad a'r ymrwymiad anhunanol a ddangoswyd dros y chwe wythnos diwethaf wedi bod yn anhygoel."