Neidio i'r prif gynnwy

Enwebiad ar gyfer gwobr Diwylliant

Mae Cheryl Beer yn Artist a Chyfansoddwr Sain Amgylcheddol, sy'n gweithio gydag ecoleg bregus. Bu Cheryl yn gerddor am dros 35 mlynedd, ond 7 mlynedd yn ôl profodd golled clyw sydyn. O'r profiad hwn, dechreuodd ail-bwrpasu'r dechnoleg y mae awdiolegwyr yn ei defnyddio yn ystod profion clyw, hy amledd sbectrol a sain ddigidol, i fesur traw biorhythmau amgylcheddol, a bellach mae hi’n cyfansoddi cerddoriaeth o’r hyn mae hi’n weld ym myd natur. Yn ystod blwyddyn o breswylio yng nghoedwigoedd glaw Cymru, cyfansoddodd CÂN Y COED, sef symffoni coedwigoedd glaw gyda biorhythmau coed, rhedyn a mwsogl. Mae Cheryl wedi ennill cydnabyddiaeth leol a chenedlaethol am ei gwaith; mae wedi teithio'n rhyngwladol a chael gwahoddiad gan Lywodraeth y DU i gynrychioli Prydain yng Ngardd Fawr Amrywiaeth Qatarac wedi ymuno â Charfan Ddiwylliannol Cymru yng Nghwpan y Byd gyda Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Mae ei cherddoriaeth unigryw a’i dawn wedi ennill clod gan Brif Weinidog Cymru.

Mae gwaith Cheryl yn codi ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, tra hefyd yn chwalu stereoteipiau am anabledd ac artistiaid anabl/byddar.