Neidio i'r prif gynnwy

Gwobr Chwaraeon enillydd 2024

Mae Cheryl yn gyn-bêl-droedwraig ryngwladol o Landudno. Ar ôl ymddeol daeth Cheryl yn ddyfarnwr ac mae wedi ymroi i yrfa’n dyfarnu pêl-droed yn rhyngwladol a thros ei gwlad.

Mae Cheryl wedi cynrychioli Cymru ar y lefel uchaf. Hi oedd y dyfarnwr benywaidd cyntaf o Gymru yng nghystadleuaeth Merched Euro 2022 UEFA. Yn y flwyddyn ganlynol, bu Cheryl yn dyfarnu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr Merched UEFA rhwng Barcelona a Wolfsburg. Hi oedd y dyfarnwr cyntaf o Gymru ers 1978 i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd Merched FIFA 2023 yn Awstralia.

Mewn maes lle mae dynion yn arglwyddiaethu yn aml, mae Cheryl wedi bod yn arloeswr ar gyfer chwaraeon Cymru. Drwy ddilyn ei llwybr mewn dyfarnu mae wedi herio stereoteipiau a phrofi bod menywod yn haeddu statws cyfartal â dynion mewn chwaraeon.

Mae Cheryl yn rhoi oriau o'i hamser rhydd i siarad â dyfarnwyr a phêl-droedwyr ifanc, gan ysbrydoli plant a merched ifanc yn arbennig i oresgyn rhwystrau a rhagfarn i ddilyn eu breuddwydion.

Fel model rôl mewn chwaraeon benywaidd yng Nghymru, Cheryl hefyd fu'r sbardun y tu ôl i gynnal cyfleoedd i fenywod yn yr FAW, gan amlygu’r angen i greu rôl Swyddog Datblygu Dyfarnwyr Benywaidd. Yn ddiweddar, bu hi’n rhan o ymgyrch Cymdeithas Bêl-droed Cymru i atal cam-drin swyddogion gemau.

Wrth i boblogrwydd pêl-droed menywod barhau i dyfu, mae Cheryl wedi gadael etifeddiaeth sy'n dangos llwybr uchelgeisiol i eraill ei ddilyn ac adeiladu ar ei llwyddiant hi.